Fe fydd y Gweilch yn gorfod wynebu pencampwyr 2017, sef y Saracens, yn grwp 5 Pencampwriaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.
Yn ogystal â hyn, fe fydd yn rhaid iddyn nhw wynebu’r ddau glwb a ddaeth yn agos i’r brig y llynedd, sef Clermont Auvergne a Seintiau Northampton.
O ran clybiau eraill Cymru, wedyn:
- Y Scarlets yn wynebu Touloun, Caerfaddon a Benetton Treviso yn grwp 5.
- Y Gleision am herio tri o gynenillwyr y bencampwriaeth yn grwp 2, sef Toulouse, Lyon a Sale Sharks.
- Y Dreigiau yn grwp 1 gyda Newcastle, Bordeaux-Begles a’r clwb o Rwsia, Enisei-STM.
Fe fydd y clybiau yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwy waith ar lefel y grwpiau, gyda’r enillwyr a’r tri chlwb gorau ar frig y rheiny’n mynd yn eu blaenau i herio’i gilydd yn y rowndiau chwarterol.
Bydd dwy rownd derfynol y bencampwriaeth yn cael eu cynnal yn stadiwm San Mamés yn Bilbao, Gwlad y Basg, ar ddydd Gwener, Mai 11 a dydd Sadwrn, Mai 12, 2018.