Fe allai tîm criced Lloegr gyrraedd rownd gyn-derfynol Tlws Pencampwyr yr ICC pe baen nhw’n curo Seland Newydd yng Nghaerdydd heddiw.

Maen nhw eisoes wedi curo Bangladesh yn eu gêm agoriadol, tra bod gêm Seland Newydd yn erbyn Awstralia wedi dod i ben yn gynnar oherwydd y glaw, a’r ornest yn gyfartal.

Hon yw’r gêm gyntaf o bedair fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yn ystod y gystadleuaeth rhwng yr wyth tîm uchaf ar restr detholion y byd.

Fe fydd dau o sêr y byd criced undydd ar y naill dîm a’r llall – Joe Root i Loegr a Kane Williamson i Seland Newydd, a’r ddau eisoes wedi taro canred yn y gystadleuaeth.

Ond fe fydd gan y ddau dîm nifer o sêr eraill, gan gynnwys Ben Stokes (Lloegr) a Luke Ronchi (Seland Newydd).

Yn ystadegol, Seland Newydd sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gemau rhwng y ddwy wlad (41), tra bod Lloegr wedi ennill 36 gêm, a dwy gêm wedi gorffen yn gyfartal.

Lloegr

Siom o’r mwyaf yr wythnos hon i Loegr oedd colli eu bowliwr cyflym Chris Woakes.

Fe fydd Lloegr yn llawn hyder ar ddechrau’r gystadleuaeth ar ôl curo De Affrica yn y gyfres flaenorol.

Seland Newydd

Ennill oedd hanes Seland Newydd yn eu cyfres ddiwethaf nhw hefyd, ond dim ond yn erbyn Iwerddon a Bangladesh, felly dydyn nhw ddim wedi profi eu hunain go iawn eto yn erbyn rhai o dimau mwya’r byd.

Ond mae ganddyn nhw lu o fatwyr cryf yn eu tîm hefyd, gan gynnwys Kane Williamson.

O ystyried y gallai’r tywydd gael effaith sylweddol ar ganlyniad y gêm, fe allai Seland Newydd ganfod eu hunain mewn sefyllfa lle byddai’n rhaid iddyn nhw guro Bangladesh er mwyn bod â rhywfaint o obaith o gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Y tywydd

Mae disgwyl glaw a thywydd stormus yn ystod y dydd ar ôl diwrnod o law ddoe wrth i’r timau baratoi ar gyfer y gêm – fe fu’n rhaid iddyn nhw ymarfer dan do yn hytrach na bod allan ar y cae.

Mae’r rhagolygon yn well ar gyfer heddiw, ond mae’n debygol y bydd cyfnodau o law yn golygu mai gêm fer fydd hon, a’r dull Duckworth-Lewis yn dod i rym er mwyn penderfynu canlyniad y gêm.

Lloegr: J Roy, A Hales, J Root, E Morgan (capten), B Stokes, J Buttler, Moeen Ali, Adil Rashid, L Plunkett, M Wood, J Ball

Seland Newydd: M Guptill, L Ronchi, K Williamson (capten), R Taylor, N  Broom, J Neesham, C Anderson, M Santner, A Milne, T Southee, T Boult

Sgorfwrdd