Aneurin Donald - un o ddau chwaraewr sydd wedi sgorio hanner canred yn y ddwy gêm agoriadol
Fe fydd gan Forgannwg gyfle i wyrdroi’r dechrau siomedig i’r tymor criced wrth iddyn nhw deithio i Grace Road i wynebu Swydd Gaerlŷr yn ail adran y Bencampwriaeth.

Fel Morgannwg, dydy’r Saeson ddim wedi ennill yr un o’u dwy gêm gynta’r tymor hwn.

Mae’r llain yn Grace Road fel arfer yn ffafrio’r batwyr, sy’n newyddion da i Forgannwg, sy’n brin eithriadol o rediadau’r tymor hwn. Dim ond y ddau Gymro, David Lloyd ac Aneurin Donald sydd wedi sgorio hanner canred yn y ddwy gêm agoriadol.

Fe gostiodd y penderfyniad i fatio’n gyntaf yn erbyn Swydd Northampton yn ddrud i Forgannwg yn y gêm gyntaf, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 101 yn eu batiad cyntaf a’i chael hi’n anodd o’r fan honno i gael gafael ar y gêm unwaith eto.

Yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, roedden nhw’n 105 am wyth wiced cyn i David Lloyd a Lukas Carey eu hachub a llwyddo i gyrraedd 207 i gyd allan.

Er bod disgwyl i’r llain droi yn ystod y gêm, dim ond un troellwr sydd wedi’i gynnwys, sef Andrew Salter, sy’n golygu nad oes lle i Owen Morgan yn y garfan unwaith eto.

Ond mae’r pum Cymro arall wedi’u cynnwys yn y garfan – David Lloyd, Aneurin Donald, Kiran Carlson, Lukas Carey ac Andrew Salter.

Gormod o dramorwyr ar draul y Cymry?

Serch hynny, roedd prif hyfforddwr Swydd Gaerwrangon, Steve Rhodes yn feirniadol o bolisi recriwtio Morgannwg yr wythnos diwethaf, wrth gyfeirio at y ffaith mai Michael Hogan o Awstralia, Timm van der Gugten o’r Iseldiroedd, a Craig Meschede a Marchant de Lange o Dde Affrica yw prif fowlwyr Morgannwg erbyn hyn.

Ond fe gafodd y polisi ei amddiffyn gan y batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram, wrth iddo ddweud mai rôl y chwaraewyr o dramor yw helpu i feithrin doniau’r Cymry iau yn y tîm.

Yn y garfan ar gyfer y gêm hon mae pedwar chwaraewr o Dde Affrica, dau o Awstralia, un Sais a phum Cymro.

O safbwynt Swydd Gaerlŷr, mae eu capten a chyn-fatiwr Morgannwg, Mark Cosgrove wedi’i wahardd ar gyfer y gêm hon oherwydd diffyg disgyblaeth ei chwaraewyr ar y cae yn ystod y gêm ddiwethaf.

Carfan Swydd Gaerlŷr: N Eckersley (capten), Z Chappell, H Dearden, C Delport, N Dexter, L Hill, P Horton, D Klein, C McKay, M Pettini, B Raine, R Sayer, C Shreck, T Wells.

Tîm: P Horton, H Dearden, N Dexter, N Eckersley (capten), M Pettini, C Delport, L Hill, B Raine, Z Chappell, C McKay, C Shreck

Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, K Carlson, H Podmore, M De Lange, M Hogan, L Carey, A Salter.

Tîm: J Rudolph (capten), N Selman, D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, K Carlson, A Salter, M de Lange, L Carey, M Hogan

Sgorfwrdd