Y Cymro, Geraint Thomas ddaeth i’r brig yn nhrydydd cymal ras seiclo Taith yr Alpau, wrth i’w gyd-aelod yn Team Sky, Mikel Landa orffen yn ail.

Geraint Thomas sydd bellach yn arwain y Daith gyfan ar ôl y cymal 142km rhwng Villabassa a Funes San Pietro.

Roedd y Cymro 18 eiliad y tu ôl i’r arweinwyr ar ôl 2km, ond fe leihaodd y fantais gyda 500 metr yn weddill o’r cymal.

Aeth amdani gyda 300 metr i fynd, gan gefnogi Mikel Landa i groesi’r llinell y tu ôl iddo.

Bydd Taith yr Alpau’n parhau yfory gyda ras 165.3km o Bolzano i Cles, gan orffen yn Trento ddydd Gwener.

Fe fydd y Cymro’n gobeithio gorffen y Daith yn gryf gyda phythefnos i fynd cyn ras y Giro d’Italia.