Robert Croft (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Doedd Robert Croft “ddim wedi rhagweld” dechrau mor wael i’r tymor criced, meddai heddiw ar ôl i Forgannwg golli o wyth wiced heddiw ar drydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd.
Roedd Morgannwg eisoes wedi colli o fatiad oddi cartref yn erbyn Swydd Northampton yn eu gêm gyntaf yn ail adran y Bencampwriaeth.
Diffyg rhediadau fu’n bennaf gyfrifol am y ddau ganlyniad, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 101 a 187 yn Northampton, a 207 a 223 yng Nghaerdydd.
Roedd penderfyniad y capten Jacques Rudolph i fatio’n gyntaf yn Northampton hefyd yn gyfrifol am y canlyniad hwnnw.
Diffyg hyder ‘yn anochel’
Ar ôl y gêm heddiw, dywedodd Robert Croft: “Nid dyna’r dechrau i’r tymor roedden ni wedi disgwyl, ond dyna lle’r y’n ni a rhaid i ni weithio i gael ein hunain ma’s o’r sefyllfa yma.
“Roedd hi’n anochel bod yr hyder yn isel ar ôl cael loes yn y batiad cyntaf yn Northampton, a digwyddodd yr un peth fan hyn – cymylau’n helpu’r bowlwyr sy’n gwyro’r bêl ac yn defnyddio’r sêm.”
“Dw i’n rhoi rhesymau i chi, esgusodion fyddai rhai’n ei ddweud.
“Ond fel criw, wnaethon ni ddim bowlio cystal ag y gallwn ni, a ddim cystal ag o’n ni wedi gobeithio bowlio.”