Mae tîm criced Morgannwg wedi colli o wyth wiced cyn cinio ar drydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd.

Collon nhw ddwy wiced – un yr un i Lukas Carey a Michael Hogan, ond fe gyrhaeddon nhw’r nod o 28 mewn 5.3 o belawdau.

Manylion

Batiodd Morgannwg ar ddiwrnod cynta’r gêm a chyrraedd 203 i gyd allan, wrth i David Lloyd daro 88 i achub y Cymry i ryw raddau’n gynnar yn y gêm.

Adeiladodd y chwaraewr amryddawn o Lanelwy bartneriaeth o 68 gyda Lukas Carey o Bontarddulais am y nawfed wiced, ar ôl i Forgannwg fod yn 105-8.

Tarodd Tom Kohler-Cadmore 102 i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd 403 i gyd allan yn eu batiad cyntaf, wrth i Ed Barnard sgorio 59 a John Hastings 51. Roedd tair wiced yn y batiad i Lukas Carey.

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad yn gadarn gyda phartneriaeth agoriadol o 74 rhwng y capten Jacques Rudolph a Nick Selman.

Collodd Nick Selman ei wiced am 42 wrth i Forgannwg lithro i 108-3, ond fe gollon nhw eu saith wiced olaf am 115 i osod nod o 19 i’r ymwelwyr am y fuddugoliaeth. Cipiodd Josh Tongue bum wiced am 45.

Un o’r ychydig berfformiadau calonogol ymhlith y batwyr oedd hwnnw gan Aneurin Donald, wrth iddo sgorio 57.

Chwarae dwy, ennill dwy yw hanes Morgannwg hyd yn hyn, ac mae cwestiynau eisoes wedi’u codi am safon y batio unwaith eto.