Colli o fatiad a 22 o rediadau wnaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Northampton yn Northampton, a hynny o fewn dau ddiwrnod.
Roedd yr ysgrifen ar y mur cyn i’r un belen gael ei bowlio, ar ôl i’r capten Jacques Rudolph alw’n gywir a phenderfynu batio ar lain oedd wedi cynnig tipyn o gymorth i’r bowlwyr cyflym.
Cafodd y Cymry eu bowlio allan am 101 yn eu batiad cyntaf, a dim ond Aneurin Donald (34) o blith y batwyr oedd wedi llwyddo i wneud unrhyw fath o gyfraniad o werth wrth i’r bowlwyr cyflym Rory Kleinveldt, Ben Sanderson a Nathan Buck fanteisio ar yr elfennau’n gynnar yn y gêm.
Pan ddaeth tro’r Saeson i fatio, ychydig iawn o broblemau gawson nhw ar lain oedd yn dechrau dangos arwyddion o wella i’r batwyr, ac fe lwyddon nhw i sgorio 310 yn eu batiad cyntaf.
Rory Kleinveldt unwaith eto oedd y prif gyfrannwr, wrth iddo fe daro 86 oddi ar 58 o belenni, gan gynnwys naw pedwar a phedwar chwech.
Yr unig beth positif am fatiad Swydd Northampton o safbwynt bowlwyr Morgannwg oedd fod y bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey wedi cipio pedair wiced am 85, ac yntau yn ei dymor llawn cyntaf gyda’r tîm cyntaf.
Colli’r frwydr i sicrhau trydydd diwrnod o griced wnaeth Morgannwg yn y pen draw wrth i Ben Sanderson achosi’r difrod gyda phedair wiced i orffen y gêm gyda ffigurau o saith wiced am 51.
Y gêm nesaf
Bydd Morgannwg yn gobeithio manteisio ar gêm gartref gynta’r tymor ddydd Gwener nesaf, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerwrangon i Gaerdydd.
Y gobaith yw y bydd y bowlwyr cyflym Michael Hogan, Graham Wagg a Timm van der Gugten i gyd ar gael unwaith eto ar ôl anafiadau.
Ond y newyddion drwg o safbwynt y batwyr yw mai’r un hen stori oedd hi unwaith eto, a dim ond Will Bragg sydd gan Forgannwg wrth gefn mewn carfan sy’n brin iawn o ddyfnder a phrofiad.
Rhaid dweud bod yr arwyddion cynnar yn rhai negyddol i Forgannwg – bydd rhaid iddyn nhw daro’n ôl yn gyflym er mwyn osgoi ailadrodd y dechreuad trychinebus gawson nhw mewn gemau pedwar diwrnod y tymor diwethaf.