Owen Morgan, Aston Martin
Mae Clwb Criced Morgannwg a Chriced Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â chwmni Aston Martin Lagonda.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi yn ystod digwyddiad arbennig yng nghanolfan Aston Martin yn Sain Tathan, Bro Morgannwg wrth i Forgannwg baratoi ar gyfer diwrnod cynta’r tymor yn Swydd Northampton yfory.

Fel rhan o’r bartneriaeth, fe fydd Aston Martin yn cefnogi tîm cyntaf Morgannwg ynghyd â nifer o dimau Cymru sy’n cael eu rhedeg gan Griced Cymru rhwng 2017 a 2019.

Cynrychioli gwlad gyfan

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Rydyn ni wrth ein boddau o gael gweithio â chwmni Prydeinig mor eiconig ag Aston Martin ac yn falch iawn eu bod nhw wedi dewis cefnogi Clwb Criced Morgannwg a datblygiad criced ieuenctid yng Nghymru.

“Morgannwg yw’r unig sir sy’n cynrychioli gwlad gyfan ac mae ein holl bartneriaid, gan gynnwys Aston Martin, yn cydnabod y cyfleoedd unigryw a ddaw yn sgil hynny.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm yn Aston Martin am eu cefnogaeth ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw dros y tair blynedd nesaf.”

Aston Martin ym Mro Morgannwg

Mae gwaith eisoes wedi dechrau i drawsnewid y cyfleuster yn Sain Tathan fel y bydd yn ganolfan sy’n gallu cynhyrchu ceir moethus.

Mae disgwyl i hyd at 750 o swyddi newydd gael eu creu o ganlyniad i sefydlu’r ganolfan, a bydd y gwaith o gynhyrchu’r Aston Martin DBX yn dechrau ar y safle yn 2019.

Dywedodd Prif Weithredwr Aston Martin, Andy Palmer: “Mae Aston Martin wedi cymryd camau breision wrth ymrwymo i gynhyrchu yng Nghymru, ac mae ein penderfyniad wedi cael ei gefnogi a’i groesawu’n gynnes gan bawb yng Nghymru.

“Ein bwriad yn sicr yw cyfrannu at lwyddiant Caerdydd a Chymru gyfan yn y dyfodol, nid yn unig fel cyflogwr ond drwy chwarae ein rhan yn y gymuned ehangach.

“Mae’r bartneriaeth hon yn dangos ein hymrwymiad i hynny, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld Morgannwg a rhai o’r timau ieuenctid wrthi y tymor hwn.”