San Helen, Abertawe (Llun: golwg360)
Mae cadeirydd Orielwyr San Helen, John Williams wedi croesawu’r newyddion y gallai mwy o griced nag arfer gael ei chwarae ar gae San Helen yn Abertawe yn 2020.
Mae Clwb Criced Morgannwg wrthi’n paratoi cais i ddenu un o dimau cystadleuaeth ugain pelawd newydd i Gymru ac i stadiwm y Swalec SSE yng Nghaerdydd.
Pe bai’r cais yn llwyddiannus, byddai’r gemau’n cael eu cynnal mewn bloc yn ystod tymor 2020, sy’n golygu na fyddai’r cae yng Nghaerdydd ar gael i Forgannwg yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae Morgannwg eisoes yn chwarae nifer o ddiwrnodau’r tymor yn Abertawe a Bae Colwyn drwy sicrhau nawdd er mwyn talu’r cynghorau lleol i gynnal y gemau.
Ond gobaith John Williams yw y gallai gêm ugain pelawd gael ei chynnal yn San Helen am y tro cyntaf ymhen tair blynedd.
Dywedodd wrth golwg360: “Gobeithio geith Caerdydd y franchise hyn, gan y bydd y gemau eraill yn mynd o gwmpas Cymru.
“Fi’n gwybod fod Hugh Morris eisiau gweld y gêm ugain pelawd yn datblygu mewn llefydd fel Abertawe ac Aberystwyth, Bae Colwyn a’r llefydd yna o’n ni’n arfer mynd i wylio criced dros y blynydde.”
Traddodiad v Y Dyfodol
Tra bod John Williams yn frwd dros griced traddodiadol, mae’n cydnabod fod angen edrych tua’r dyfodol a datblygu’r gêm ugain pelawd yng Nghymru fel modd o ddenu rhagor o wylwyr.
“Hen stejars fel fi, o’n i’n cefnogi’r hen gêm draddodiadol, ond mae rhaid i ni gael rhywbeth i ddenu’r to ifanc i wylio a chwarae criced. Mae’n bwysig iawn i ddyfodol y gêm.
“O’n i byth yn meddwl y bydden i’n dweud hyn, ond mae’n bwysig ofnadw bo ni’n ymdopi â’r gêm ugain pelawd. Dyma ddyfodol y gêm.
“Y diwrnod o’r blaen o’n nhw’n dweud ar y newyddion bod llai o bobol ifainc yn mynd i bysgota. Mae’r nifer wedi haneru. Rhaid i ni feddwl am y dyfodol.”