Mae tymor criced dosbarth cyntaf Morgannwg yn dechrau heddiw wrth iddyn nhw herio tîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC ar gae’r Swalec yng Nghaerdydd.
Gêm gyfeillgar fydd hon dros gyfnod o dridiau, ond un sydd â statws dosbarth cyntaf.
Mae tîm y prifysgolion yn gyfuniad o chwaraewyr o brifysgolion Caerdydd, De Cymru a Metropolitan Caerdydd.
Ond fe fydd y tîm yn cynnwys nifer o chwaraewyr sydd wedi cael y profiad o fod yng ngharfan Morgannwg dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Jeremy Lawlor, Connor Brown, Tom Cullen, Ollie Pike a Neil Brand.
Hon yw’r gêm gynharaf erioed yn y tymor criced, a’r gêm gyntaf yn hanes Morgannwg sydd wedi dechrau a gorffen ym mis Mawrth.
Bydd y gêm yn dechrau am 11 o’r gloch. Bydd cinio am 1.15pm, te am 4.10pm a’r gêm yn gorffen am 6.30pm.
Ar y diwrnod olaf, bydd cinio am 1 o’r gloch, te am 3.40pm a’r gêm yn dirwyn i ben am oddeutu 6 o’r gloch.
Bydd diweddariadau ar gael ar Twitter, yn ogystal â sgorfwrdd.
Tîm Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, D Lloyd, A Donald, C Cooke, K Carlson, C Meschede, O Morgan, A Salter, M Hogan, L Carey
Tîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC: M Norris, J Lawlor, N Brand (capten), T Rouse, C Brown, T Cullen, J Scriven, A Nijjar, K Leverock, A Brewster, O Pike
Dyfarnwyr: J Evans, R Warren