Mark Wallace
Mae wicedwr Morgannwg, Mark Wallace wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd criced ar ôl 18 o flynyddoedd yn y tîm cyntaf.
Mae e wedi’i benodi’n Rheolwr Datblygu Chwaraewyr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) yng Nghymru a de-orllewin Lloegr.
Arweiniodd y sir rhwng 2012 a 2015, ac fe yw’r wicedwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Clwb Criced Morgannwg.
Mark Wallace oedd y wicedwr cyntaf yn hanes y sir, yn 2011, i sgorio dros 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf mewn tymor.
Ymddangosodd yng nghrys tîm cyntaf Morgannwg am y tro cyntaf yn 1999, ac yntau’n 17 oed ar y pryd, y wicedwr ieuengaf erioed i chwarae dros y sir yn y Bencampwriaeth. Aeth ymlaen i gynrychioli tîm dan 19 Lloegr, gan ennill ei le fel wicedwr yn barhaol yn 2001.
Enillodd ei gap yn 2003, ac roedd yn aelod blaenllaw o’r tîm undydd a gododd gwpan y Gynghrair Genedlaethol y tymor canlynol.
Fe dorrodd record yn 2005 wrth iddo bara batiad cyfan heb ildio’r un heibiad fel wicedwr wrth i Swydd Gaint sgorio 587 yng Nghaergaint.
Daeth ei sgôr unigol mwyaf o 139 yn erbyn Swydd Surrey ar gae’r Oval yn 2009, gan adeiladu partneriaeth o 240 gyda Jim Allenby.
Yng Nghaergaint yn 2012, fe greodd hanes drwy sgorio’r cyfanswm mwyaf o rediadau i wicedwr yn hanes y sir, gan dorri record flaenorol Eifion Jones.
Yn 2015, fe gyrhaeddodd y garreg filltir o 10,000 o rediadau dosbarth cyntaf, ac fe lwyddodd i gyrraedd 230 o gemau’n olynol yn y Bencampwriaeth cyn i anaf ei orfodi i golli nifer o gemau.
Yn ystod ei dymor olaf y llynedd, fe gipiodd naw o ddaliadau neu stympiadau mewn batiad ddwywaith, gan ddod yn gyfartal â record Colin Metson i’r sir.
‘Calon drom’
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Mark Wallace ei fod yn gadael Morgannwg “â chalon drom”.
“Dw i wedi bod yn eithriadol o ffodus i gael cynrychioli Morgannwg ers cyhyd.
“Er fy mod i’n cerdded i ffwrdd â chalon drom, dw i wrth fy modd o allu dechrau ar bennod newydd fy mywyd gyda’r PCA.
“Dw i’n hynod ddiolchgar i’r clwb am y cyfleoedd maen nhw wedi eu rhoi i fi, i’r cefnogwyr am oddef rhai o fy mherfformiadau ac i’m teulu a’m ffrindiau am eu cefnogaeth ddiwyro.”
‘Rhan hanfodol o Forgannwg’
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Prif Weithredwr y sir, Hugh Morris fod Mark Wallace wedi bod yn “rhan hanfodol o Glwb Criced Morgannwg ers bron i ddau ddegawd”.
“Fe fydd yn cael ei gofio am amser hir am ei sgiliau gyda’r bat a’r menig, ei rinweddau fel arweinydd, fel esiampl yn yr ystafell newid ac fel llysgennad i’r clwb.
“Gall Mark edrych yn ôl ar yrfa broffesiynol ragorol gyda balchder mawr ac mae’n newyddion ardderchog y bydd yn parhau i gyfrannu i’r byd criced yn ei swydd newydd gyda’r PCA.
“Ar ran y clwb, y pwyllgor a’r holl gefnogwyr, dymunwn yn dda i Mark a’i deulu gyda’r bennod newydd hon yn eu bywydau.”