Mae Swydd Gaerloyw wedi trechu Morgannwg o 10 wiced ar drydydd diwrnod eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Dyma’r ail waith yn olynol i Forgannwg golli o fewn tridiau, a’r pedwerydd batiad yn olynol iddyn nhw bara llai na 65 o belawdau.

Roedd angen 90 o rediadau’n unig ar yr ymwelwyr i ennill, gyda diwrnod ac un sesiwn i gwrso’r nod.

Tarodd y capten Gareth Roderick hanner canred (56 heb fod allan) wrth iddo arwain ei dîm i fuddugoliaeth ochr yn ochr â’i gyd-fatiwr agoriadol Chris Dent (35 heb fod allan).

Manylion

Penderfynodd Swydd Gaerloyw fowlio’n gyntaf heb gynnal y dafl ar fore cynta’r ornest, ac fe dalodd y penderfyniad ar ei ganfed wrth iddyn nhw fowlio Morgannwg allan am 220 erbyn amser te ar y diwrnod cyntaf.

Tarodd yr Awstraliad ifanc Nick Selman 101 yn y batiad hwnnw – ei ail ganred y tymor hwn – wrth iddo sgorio bron hanner cyfanswm y Cymry ar ei ben ei hun.

Rhannodd Matt Taylor a Craig Miles y wicedi, wrth iddyn nhw gipio pedair wiced yr un, y naill am 56 rhediad a’r llall am 44.

Sicrhaodd Swydd Gaerloyw fantais batiad cyntaf o 143 wrth iddyn nhw sgorio 363 a Hamish Marshall yn cyfrannu 101 at y cyfanswm, a David Payne yn sgorio 67 heb fod allan.

Cipiodd un arall o Awstraliaid Morgannwg, Michael Hogan bum wiced am 36 i gyfyngu’r ymwelwyr i gyfanswm llawer llai nag y gallen nhw fod wedi’i gael.

Tro David Payne oedd hi yn yr ail fatiad i gipio pedair wiced i Swydd Gaerloyw, wrth i Forgannwg gyrraedd 232 yn unig cyn cael eu bowlio allan, ar ôl bod yn 99-5 wrth i’r batwyr cydnabyddedig chwalu unwaith eto.

Un garreg filltir sy’n werth ei nod yw fod Aneurin Donald, 19 oed, bellach wedi cyrraedd 1,000 o rediadau y tymor hwn – y chwaraewr ieuengaf i wneud hynny wrth iddo dorri record y cyn-gapten a phriff hyfforddwr Matthew Maynard, y record a sefydlodd yn 1986.

Dim ond partneriaeth o 58 am y wiced olaf rhwng y capten dros dro Michael Hogan a’r wicedwr Mark Wallace sicrhaodd fod gan yr ymwelwyr nod dros hanner cant yn y pen draw, ond yr un hen hanes oedd hi wrth i Forgannwg orffen yr ornest yn cwestiynu pa un a allen nhw fod wedi cael canlyniad mwy positif pe bai eu batwyr wedi perfformio’n well.