Cyrhaeddodd Aneurin Donald garreg filltir bersonol ar ddechrau trydydd diwrnod gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.

Donald, 19, bellach yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio 1,000 o rediadau mewn tymor, gan guro record cyn-gapten a phrif hyfforddwr y sir, Matthew Maynard, oedd ychydig yn iau yn 1986.

Ar ddechrau’r ornest, roedd angen 40 o rediadau ar Donald i gyrraedd y nod. Yn ei fatiad cyntaf, fe sgoriodd y chwaraewr o Abertawe 36.

Ond fe gurodd y record ar ei ffordd i 12 heb fod allan erbyn amser cinio ar y trydydd diwrnod, ac mae Morgannwg yn 75-3, 67 o rediadau y tu ôl i Swydd Gaerloyw.

Fe fu’n dymor o gerrig milltir i Donald, wrth iddo daro’r canred dwbl cyflymaf erioed i Forgannwg, wrth iddo sgorio 234 yn erbyn Swydd Derby ym Mae Colwyn ym mis Gorffennaf.

Fe fu bron i Donald dorri record arall ddiwedd y tymor diwethaf, wrth iddo sgorio 98 – yn erbyn Swydd Gaerloyw. Pe bai e wedi sgorio dau rediad arall, fe fyddai Donald wedi torri’r record am y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred i Forgannwg – Maynard sydd â’r record honno o hyd.

Yn ystod batiad Swydd Gaerloyw, cipiodd y bowliwr cyflym Michael Hogan bum wiced am 36 wrth i’r ymwelwyr gael eu bowlio allan am 363.