Mae Pacistan wedi ennill y gêm 50 pelawd olaf yn y gyfres undydd yn erbyn Lloegr o bedair wiced yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.
Imad Wasim, a gafodd ei eni yn Abertawe, darodd yr ergyd fuddugol am bedwar gyda deg pelen yn weddill, wrth iddo orffen heb fod allan ar 16 mewn partneriaeth o 38 gyda Mohammad Rizwan.
Ond Lloegr sy’n ennill y gyfres o 4-1.
Y sêr i Bacistan oedd Shoaib Malik (77) a Sarfraz Ahmed (90), a adeiladodd bartneriaeth o 163 – y seithfed partneriaeth orau erioed i Bacistan mewn gêm 50 pelawd.
Roedd pedair wiced i Hasan Ali am 60 rhediad, wrth i Mohammad Amir gipio tair wiced am 50 i gyfyngu Lloegr i 302-9, pan allen nhw mewn gwirionedd fod wedi cael cyfanswm yn nes at 350.
Jason Roy (87) a Ben Stokes (75) oedd prif sgorwyr Lloegr wrth i gyfres o bartneriaethau solet eu tynnu dros y 300 yn y pen draw.
Cael a chael oedd hi i Bacistan drwy gydol y batiad, ond roedd Imad Wasim, a gafodd ei eni yn Abertawe, yno ar y diwedd i arwain ei dîm i’r fuddugoliaeth ar ôl cipio un wiced am 33 rhediad wrth fowlio’n gynharach yn y dydd.
Manylion
Dechreuodd Lloegr yn gryf wrth i Jason Roy daro 87 oddi ar 89 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys wyth pedwar a dau chwech.
Roedd ei bartneriaeth o 78 am y bumed wiced gyda Ben Stokes yn allweddol wrth i Loegr lwyddo i groesi’r 300 yn y belawd olaf i gyrraedd 302-9.
Tarodd Stokes 75, gan guro’i gyfanswm unigol gorau blaenorol o 70. Roedd ei fatiad yn cynnwys pum pedwar a thri chwech oddi ar 76 o belenni.
Roedd Stokes a Bairstow eisoes wedi ychwanegu 55 am y bedwaredd wiced cyn hynny.
Hasan Ali (4-60) a Mohammad Amir (3-50) oed y prif gyfranwyr o ran wicedi i Bacistan, ond sicrhaodd Imad Wasim, y troellwr llaw chwith a gafodd ei eni yn Abertawe, nad oedd ei dîm yn ildio llawer mwy na’r 302, wrth iddo gipio un wiced am 33 yn ei ddeg pelawd.
Ar lain oedd yn effeithiol i Imad Wasim, doedd y troellwyr eraill, Shoaib Malik (0-40 oddi ar chwe phelawd) a Mohammad Nawaz (0-32 oddi ar bedair pelawd) ddim wedi gallu manteisio arni gymaint ag y dylen nhw fod wedi gwneud.
Umar Gul oedd yr unig fowliwr arall i gipio wiced, gan orffen gyda ffigurau o 1-77 oddi ar ei ddeg pelawd.
Gyda’r darogan y byddai’r nod yn rhy fawr i Bacistan, fe gawson nhw ddechrau siomedig wrth i Sharjeel Khan golli ei wiced ar ôl 4.5 pelawd, ond ychwanegodd y capten Azhar Ali a Babar Azam 54 oddi ar 52 o belenni am yr ail wiced cyn i Babar gael ei fowlio gan Mark Wood am 31, a’r cyfanswm yn 77-2.
Ar ôl adeiladu partneriaeth o 100 am y bedwaredd wiced, sgoriodd Sarfraz Ahmed a Shoaib Malik hanner canred yr un wrth i Bacistan gyrraedd 186-3 ar ôl 30 o belawdau. 117 oedd y nod, felly, oddi ar yr ugain pelawd olaf a’r bartneriaeth hon oedd wedi sicrhau bod Pacistan yn dal yn brwydro am y fuddugoliaeth.
Daeth y bartneriaeth o 163 i ben wrth i Sarfraz gael ei ddal gan Alex Hales oddi ar fowlio Liam Dawson am 90. Gwnaeth y bartneriaeth hon efelychu partneriaeth Ijaz Ahmed ac Inzamam ul-Haq yn erbyn India ym Mohali yn 1999 – y ddwy bellach yn gydradd am y seithfed partneriaeth orau erioed i Bacistan am y bedwaredd wiced mewn gêm 50 pelawd.
Collodd Pacistan eu dwy wiced nesaf am 26 cyn i Imad Wasim ddod i’r llain i ymuno â Mohammad Rizwan.
Y ‘Cymro’ gafodd y gair olaf, wrth iddo daro’r ergyd fuddugol am bedwar, a Phacistan yn ennill o bedair wiced, ac Imad yn 16 heb fod allan ar ddiwedd y gêm.