Mae’r troellwr 18 oed o Gaerdydd, Kiran Carlson wedi cipio pum wiced am 28 yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i Forgannwg.

Cafodd Carlson ei alw i’r garfan y bore ma yn lle Craig Meschede, sydd wedi anafu ei gefn.

Ymddangosodd Carlson yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf yn y gêm undydd yn erbyn Pacistan A yng Nghasnewydd yn gynharach y tymor hwn.

Daw ei lwyddiant diweddaraf ar ôl iddo gael tair gradd ‘A’ yn ei arholiadau Safon Uwch ddechrau’r haf, ac fe fydd yn astudio Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2017 ar ôl cael seibiant am flwyddyn.

Aeth Carlson i Ysgol Uwchradd Whitchurch – yr un ysgol â’r diweddar Tom Maynard, capten tîm rygbi Cymru Sam Warburton, y seiclwr Olympaidd Geraint Thomas a seren pêl-droed Cymru, Gareth Bale.

Wicedi Carlson

Daeth awr fawr Carlson oddi ar y belen olaf cyn cinio, wrth i Carlson fowlio Ben Duckett – sy’n gynnyrch Academi Ymddiriedolaeth Tom Maynard – am 80 i dorri partneriaeth o 140 gyda Rob Newton.

Cipiodd ei ail wiced gyda’r belen olaf cyn te, gan fowlio Steven Crook, a Swydd Northampton erbyn hynny’n 230-6.

Ailadroddodd belen debyg i waredu Rory Kleinveldt wedi’r egwyl ar gyfer ei drydedd wiced, cyn i Graham Wagg ddal David Murphy a Graeme White yn y cyfar i sicrhau bod Carlson yn cipio wicedi pedwar a phump.

Collodd Swydd Northampton naw wiced am 84 o rediadau, a phum wiced am 45 yn ystod yr ail sesiwn cyn te.

Cipiodd Wagg, Timm van der Gugten a David Lloyd wiced yr un, tra bod dwy wiced hefyd i’r troellwr ifanc arall, Owen Morgan, ac yntau hefyd yn ei dymor cyntaf gyda Morgannwg.

“Braidd yn wallgo”

Ar ddiwedd y dydd, dywedodd Carlson: “Ro’n i’n chwarae i’r ail dîm yng Nghasnewydd ddydd Mawrth, a chlywed bod angen i fi fynd i Northampton.

“Batiwr ydw i o ran fy nghrefft a dim ond bowlio sbin yn rhan-amser – do’n i ddim yn disgwyl cael bowlio yma o gwbl, ond pan wnaeth yr un gynta droi, ro’n i’n meddwl y byddai gen i ran i’w chwarae.

“Mae hi braidd yn wallgo, ychydig o belawdau dwi wedi’u bowlio i’r ail dîm y tymor hwn felly mae cael dod yma a chael pum [wiced] yn dipyn o sioc.”