Gallai Swydd Northampton fynd uwchben Morgannwg yn ail adran y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn Wantage Road yn Northampton dros y pedwar diwrnod nesaf.

Mae tîm y Saeson yn frith o sêr oedd wedi helpu’r sir i ennill cwpan ugain pelawd y T20 Blast eleni, ac fe gollon nhw o drwch blewyn yn erbyn Swydd Gaerwrangon yr wythnos diwethaf.

Mae gan y ddwy sir yr un nifer o bwyntiau yn y tabl.

Mae Morgannwg wedi ychwanegu’r Albanwr Ruaidhri Smith at yr unarddeg chwaraewr a gollodd yn erbyn Swydd Sussex yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Swydd Northampton: A Wakely (capten), C Barrett, B Duckett, S Crook, R Keogh, R Newton, Saif Zaib, A Rossington, D Murphy, B Sanderson, R Levi, R Kleinveldt, G White

Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, W Bragg, D Lloyd, A Donald, G Wagg, C Meschede, M Wallace, O Morgan, T van der Gugten, M Hogan, R Smith