David Marshall (Llun: CCA 2.0 gan Jon Candy)
Mae clwb pêl-droed dinas Hull bellach wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo golwr Caerdydd, David Marshall.

Fe fydd y gŵr 31 oed yn ymuno â’r clwb ar gytundeb tair blynedd, ond nid yw’n amlwg eto beth fydd ei delerau na faint mae Caerdydd wedi’i dderbyn amdano.

Mae David Marshall wedi chwarae tua 250 o gemau i’r Adar Gleision dros ei gyfnod o saith mlynedd gyda’r clwb.

Yn wreiddiol o Glasgow, mae wedi chwarae i glybiau pêl-droed Celtic a dinas Norwich ynghyd ag i dîm pêl-droed yr Alban a bydd yn ymuno â’r garfan fydd yn herio Malta dydd Sul fel rhan o’u hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2018.