Gyda thymor Morgannwg yn rhacs ar ôl colli yn rownd wyth ola’r T20 Blast yn erbyn Swydd Efrog nos Iau, y Bencampwriaeth yw’r unig obaith nawr i’r Cymry o adfer ychydig o hunanbarch a gorffen y tymor ar nodyn positif.

Mae un fuddugoliaeth yn unig yn yr ail adran eleni wedi bod yn destun siom ac embaras i Forgannwg, sydd wedi pwysleisio ers sawl tymor mai ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf yn y gystadleuaeth pedwar diwrnod yw eu prif flaenoriaeth.

Mae Morgannwg ar waelod y tabl gyda chwe gêm yn weddill, ond maen nhw’n ddigon agos i’r timau uwch eu pennau i i allu codi sawl safle. Gyda’r gystadleuaeth hon bellach yn unig ffocws y Cymry rhwng nawr a chanol mis Medi, byddai unrhyw beth llai na chodi o waelod y tabl yn tanlinellu eu tymor siomedig unwaith ac am byth.

Mae’r daith i New Road yng Nghaerwrangon yn gyfle i ddechrau o’r dechrau, i ryw raddau, ac fel y mae’r hen ddihareb yn awgrymu, mae pob gêm rhwng nawr a diwedd y tymor yn ‘rownd derfynol’ i Forgannwg.

Yn dychwelyd i’r garfan ar gyfer y daith i Ganolbarth Lloegr mae’r bowlwyr cyflym Graham Wagg, Craig Meschede a Michael Hogan, sydd wedi cipio 58 o wicedi rhyngddyn nhw gyda’r bêl goch y tymor hwn.

Ond mae cyfle unwaith eto i’r bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey ar ôl iddo gipio saith wiced yn yr ornest yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen yn ddiweddar. Bydd perfformiad y bowliwr 19 oed yn cael ei gofio am gryn amser fel un o elfennau mwyaf addawol Morgannwg y tymor hwn.

Mae cyfle unwaith eto hefyd i’r troellwr llaw chwith o Bontarddulais, Owen Morgan.

Mae Ruaidhri Smith, Colin Ingram a Chris Cooke yn colli allan oherwydd amryw anafiadau.

‘Balchder a chymeriad’

“Balchder a chymeriad” yw’r geiriau allweddol i Forgannwg, yn ôl eu prif hyfforddwr Robert Croft, sydd ag un llygad eisoes ar adeiladu ar gyfer y tymor nesaf.

“Y chwaraewyr dw i am eu cael yw’r rhai sy’n barod i frwydro a chwffio a bydda i’n dysgu tipyn am y chwaraewyr hyn dros y chwe gêm nesaf.”

Carfan Swydd Gaerwrangon: D Mitchell (capten), B D’Oliveira, T Fell, J Clarke, T Kohler-Cadmore, R Whiteley, B Cox, J Leach, E Barnard, J Shantry, C Morris, C Russell

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, W Bragg, D Lloyd, A Donald, C Meschede, G Wagg, M Wallace, O Morgan, M Hogan, L Carey, A Salter