Wrth i Uwch Gynghrair Cymru gychwyn heno gyda Bangor v Bala, mae clwb pêl-droed Airbus UK ym Mrychdyn wedi cyhoeddi fod eu rheolwr wedi gadael ei swydd.
Er bod yr amseru yn rhyfedd, mae’r ddwy ochr yn mynnu eu bod wedi cytuno y byddai’n well i’r Cyfarwyddwr Pêl-droed, Andy Preece, roi’r gorau iddi… a hynny ar drothwy eu gêm gynghrair gynta’r tymor hwn adref yn erbyn Prifysgol Metropolitan Caerdydd ddydd Sul.
Fe chwaraeodd Andy Preece i glybiau Wrecsam, Crystal Palace a Blackpool rhwng 1986 a 2005.
Ac mae wedi rheoli sawl tîm – Bury, Worcester City, Stockport County a Northwich Victoria.
Mewn datganiad ar wefan Airbus UK, fe ddywedodd y clwb: “Ers iddo ddod i’r clwb, yr ydym wedi cael llwyddiant na fyddem ond wedi gallu breuddwydio amdano cyn iddo gymryd y llyw yma yn Airbus.
“Mae wedi bod yn daith ffantastig gydag Andy yn rhan o’r tȋm ac fe fyddai’r clwb yn hoffi diolch iddo am y llwyddiannau a gyflawnodd i’r clwb ac fe ddymunwn y gorau iddo a’i deulu yn y dyfodol.”
Dywedodd Andy Preece: “Mae hi wedi bod yn bedair blynedd a hanner anhygoel. Pan ddes i Airbus, camp fwyaf y clwb oedd gorffen yn seithfed yn y Gynghrair gan gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru.
“Ers hynny, rydym wedi cyrraedd Ewrop dair gwaith, gan golli ddwywaith yn unig mewn chwe gêm, gan orffen yn ail yn yr Uwch Gynghrair dwywaith. Gallwn fod yn falch o’n llwyddiannau.
“Cafwyd gemau cofiadwy, yn cynnwys buddugoliaethau cofiadwy yn erbyn TNS ynghyd â’n hanturiaethau yn Ewrop, yn enwedig ein perfformiad anhygoel yn Zagreb.”
Yn y cyfamser, mae Andy Thomas wedi cael ei benodi yn rheolwr dros dro.