Robert Croft (llun cyhoeddusrwydd Morgannwg)
Mae Prif Hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg wedi cyfadde’ fod perfformiad y tîm yn erbyn Swydd Efrog yn “wael” nos Iau, ac nad oedd y tîm wedi cyrraedd y safon sy’n ddisgwyliedig.

Collodd Morgannwg o 90 rhediad yn erbyn Swydd Efrog yn rownd wyth ola’ cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, wrth iddyn nhw anelu am le yn Niwrnod y Ffeinals yn Edgbaston ar Awst 20.

Gyda nod o 181 i ennill ar ôl i’r ymwelwyr fatio’n gyntaf, collodd Morgannwg eu ffordd o ddechrau’r batiad a cholli llu o wicedi’n gynnar i roi terfyn ar eu gobeithion o wyrdroi tymor siomedig.

‘Ddim lan i’r safon’

“O’n ni’n wael heno, a ddim lan i’r safon, a sdim lot arall fi’n gallu gweud,” meddai Robert Croft wedyn.

“Gollon ni’r gêm, fi’n credu, yn y chwech pelawd gyntaf gyda’r bat a’r bêl, ac wedyn o’dd e’n eitha galed i fwrw nôl. O’n i’n eitha hapus hanner ffordd i gadw nhw lawr i 180.

“Ond gollon ni wiced gyda’r belen gyntaf ac o’dd y bois eraill fel dominos ar ôl hynna felly o’dd e’n galed i ddod nôl.”

Ingram yn eithriad

Er bod Colin Ingram wedi cynnal Morgannwg yn ystod sawl gêm gyda’r bat yn y gystadleuaeth eleni, gyda’r bêl y gwnaeth y gŵr o Dde Affrica greu argraff neithiwr, wrth iddo fe gipio pedair wiced am 32 i gyfyngu’r ymwelwyr i gyfanswm llawer is na’r disgwyl.

Roedd y prif hyfforddwr yn barod iawn i ganmol Ingram, a fydd yn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin o fewn y pythefnos nesaf, fydd yn golygu na fydd e ar gael am weddill y tymor.

Ychwanegodd Croft: “Mae Colin Ingram yn foi arbennig o dda. Mae e wedi bod yn seren yn y gystadleuaeth hyn.”

Ar ben

Mae’r canlyniad neithiwr yn golygu bod tymor Morgannwg ar ben, i bob pwrpas, ac eithrio eu gemau yn y Bencampwriaeth. Ond dim ond un fuddugoliaeth mae’r Cymry wedi’i chael yn y gystadleuaeth honno eleni.

Yn ôl Croft, sydd ar ei dymor cynta’n brif hyfforddwr, fe fydd y gemau sy’n weddill yn profi faint o galon sydd yn y tîm.

“Fi’n mynd i ddysgu lot am y garfan hyn yn y chwe gêm olaf. Fi’n mynd i watsio nhw achos fi moyn gweld beth sydd yn eu calon nhw. Fel cricedwr, os y’ch chi’n whare i Forgannwg, rhaid i chi ddangos calon bob tro y’ch chi’n mynd ma’s yn y canol a fi’n mynd i watsio.

“Rhaid i’r bois hŷn sefyll lan. Na beth fi moyn gweld, y bois ifainc yn sefyll lan, ond y bois hŷn hefyd.”