Mae Timm van der Gugten wedi cipio pum wiced mewn batiad am yr ail waith i Forgannwg, ar bedwerydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen.

Fe sicrhaodd ei ffigurau gorau erioed – pump am 61 wrth iddo gipio dwy wiced ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod, gan ychwanegu at y dair a gafodd ar y trydydd diwrnod.

Mae’r ffigurau’n gwella ar y 5-90 a gafodd yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.

Gorffennodd y bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey gyda 4-92, gan ychwanegu at ei dair wiced yn y batiad cyntaf, a gorffen gyda ffigurau o saith wiced am 151 yn yr ornest gyfan yn ei gêm gyntaf i Forgannwg.

Roedd Swydd Northampton yn 261-9 pan benderfynon nhw gau’r batiad, gan osod nod o 347 i Forgannwg mewn 90 pelawd.