Tarodd Nick Selman 122 heb fod allan – ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf – ar drydydd diwrnod gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen yn Abertawe.

Selman, sy’n hanu o Awstralia, yw’r chwaraewr cyntaf i gario’i fat (batio trwy gydol y batiad) i Forgannwg ers i’w gydwladwr Matthew Elliott wneud hynny yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghaerdydd yn 2004.

Roedd Selman yn 79 heb fod allan ar ddechrau’r dydd ac fe gyrhaeddodd ei ganred cyntaf erioed yn dilyn sawl ergyd i’r ffin yn gynnar yn y sesiwn.

Parodd batiad Selman bump awr a dwy funud, ac fe darodd e 15 pedwar oddi ar 208 o belenni.

Ond fe redodd allan o bartneriaid yn y pen draw wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 236, gan roi blaenoriaeth batiad cyntaf o 85 i’r ymwelwyr.