Lukas Carey gydag is-hyfforddwr Morgannwg, Steve Watkin
Y bowliwr cyflym Lukas Carey yw’r ail chwaraewr o Glwb Criced Pontarddulais i chwarae ac i gipio wicedi i Forgannwg y tymor hwn.
Ar ddiwrnod cyntaf ei gêm gyntaf i’r sir yn San Helen ddydd Mercher, fe gipiodd Carey dair o wicedi Swydd Northampton am 37 rhediad mewn 10 pelawd.
Daw ymddangosiad cyntaf Carey yn nhîm Morgannwg ychydig wythnosau’n unig ar ôl i’r troellwr llaw chwith Owen Morgan chwarae yn ei gêm gyntaf i’r sir.
Mae’r ddau yn cael eu hyfforddi bellach gan un arall o frodorion ardal Pontarddulais, Robert Croft.
11 o belenni’n unig gymerodd hi i Carey gipio’i wiced gyntaf, wrth i Ben Duckett ddarganfod dwylo diogel Ruaidhri Smith yn y cyfar.
11 o belenni’n ddiweddarach y daeth ei ail wiced, wrth iddo fe ddarganfod coes Sean Terry o flaen y wiced.
Roedd yr ymwelwyr yn 24-3 ar ôl i Timm van der Gugten gipio wiced Rob Newton, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace.
A’r ymwelwyr mewn trafferth yn gynnar yn yr ornest, daeth trydedd wiced Carey wrth i Rob Newton ergydio pelen lydan i’r slip ac i ddwylo Aneurin Donald.
Diolch yn bennaf i berfformiad Carey, roedd yr ymwelwyr yn 108-4 erbyn diwedd y diwrnod cyntaf, a gafodd ei gwtogi’n sylweddol gan y glaw.
‘Nerfau’
Ar ddiwedd y dydd, cyfaddefodd Carey ei fod yn nerfus cyn cipio’i wiced gyntaf.
“Ro’n i’n gyffrous iawn pan ddywedon nhw wrtha i ’mod i’n chwarae. Ro’n i’n nerfus iawn yn y belawd gyntaf ond fe ddes i drosti pan ges i’r wiced gyntaf.
“Mae’r pêl yn gwyro a gobeithio y gallwn ni gipio rhagor bore fory.”
‘Mis bach diddorol’ i’r Bont
Cyn y mis hwn, James Harris oedd y chwaraewr diwethaf o Bontarddulais i gynrychioli Morgannwg.
Yn ôl ysgrifennydd Clwb Criced Pontarddulais, Ben Roberts, mae’r clwb yn gobeithio bod dyfodol disglair o flaen Carey a Morgan.
“Mae ’di bod yn fis bach diddorol i ni, wir. Mae’n anrhydedd fawr ac yn destun balchder i ni fel clwb i weld y ddau ohonyn nhw’n llwyddiannus.”
Mae “criced yng ngwaed y teulu”, meddai Ben Roberts am Lukas Carey, sy’n ŵyr i Stuart Carey, un o aelodau tîm Cymru yn Nhlws yr ICC yn 1979.
“Mae teulu criced enfawr gyda Lukas. Ei dad-cu fe, Stuart yn gyn-gapten y clwb a’i dad e’n gyn-gapten y clwb hefyd. Mae tri wncwl gyda fe sydd wedi chwarae criced i’r Bont hefyd. O’dd ei dad-cu e ar yr ochr arall, wedyn, yn gadeirydd y clwb. O’r ddwy ochr, mae criced yng ngwaed Lukas.”
Mae Carey eisoes wedi creu argraff yn Uwch Gynghrair De Cymru y tymor hwn, wrth ddringo’i ffordd i frig y tabl o chwaraewyr sydd wedi cipio’r nifer fwyaf o wicedi, ac fe gafodd ei enwi’n chwaraewr gorau’r gynghrair ym mis Mehefin.
Ychwanegodd Ben Roberts: “Deuddeg gêm y’n ni wedi chwarae ac mae e wedi cael 35 wiced. Gath e wyth am 35 yn erbyn Rhydaman.”
Balchder personol
Yn ogystal â balchder y clwb yn llwyddiant Carey, mae gan Ben Roberts reswm ychwanegol i ddathlu ei lwyddiant.
“Fi wedi’i hyfforddi fe. O’dd e’n rhan o dîm dan 16 ni oedd wedi ennill y South Wales Junior Cricket League a fi wedi’i hyfforddi fe ers oedran ifanc iawn.
“Ni mor browd ohono fe, fel y’n ni hefyd yn browd o Owen Morgan. Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig i ni fel clwb i gael dod â chwaraewyr trwyddo i’r lefel hyn o griced.
“Fi’n falch bo nhw nawr yn cael y llwyddiant maen nhw’n ei haeddu.”