Osian Roberts, is-hyfforddwr tîm pêl droed Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Fenni
Mae dau a gyfrannodd yn helaeth at lwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016 wedi cael gwahoddiad arbennig i lwyfan y brifwyl y prynhawn yma.

Fe fydd Is-reolwr Cymru, Osian Roberts, a Phennaeth Cyfathrebu’r Gymdeithas Bêl-droed, Ian Gwyn Hughes yn camu ar lwyfan y pafiliwn y prynhawn yma cyn seremoni’r Fedal Ryddiaith.

Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, dyma gyfle i’r gynulleidfa ddangos eu cefnogaeth a’u gwerthfawrogiad i dîm pêl-droed Cymru.

‘Cyfle i longyfarch’

“Mae gan yr Eisteddfod berthynas dda gyda’r Gymdeithas Bêl Droed ers blynyddoedd, ac yn y gorffennol, mae timau Cymru ar gyfer gemau wedi’u cyhoeddi yn ystod yr ŵyl,” meddai Eifion Lloyd Jones, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod.

“Braf felly yw cael cydweithio gyda’r Gymdeithas heddiw, er mwyn i gynulleidfa a chefnogwyr yr Eisteddfod gael cyfle ei longyfarch y tîm drwy bresenoldeb Ian ac Osian, a dweud diolch yn fawr iddyn nhw am bopeth.”

Ar y maes heddiw, cafodd golwg360 gyfle i sgwrsio â’r ddau.