Wythnos flynyddol o griced yn Abertawe wedi dechrau mewn modd siomedig i garfan Robert Croft
Does gan Forgannwg “ddim esgusodion” ar ôl iddyn nhw golli o 186 o rediadau yn erbyn Swydd Hampshire yn Abertawe ddydd Sul.

Dyna neges eu Prif Hyfforddwr, Robert Croft wrth i’r sir ddechrau wythnos flynyddol o griced ar gae San Helen, fydd yn parhau gydag ymweliad Swydd Northampton ddydd Mercher yn ail adran y Bencampwriaeth.

Mae’r canlyniad yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London yn golygu bod Morgannwg bron iawn allan o’r gystadleuaeth.

‘Dysgu gwers’

Yn ôl Croft, roedd Swydd Hampshire “yn well na ni gyda’r bat, y bêl ac yn y maes”.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Croft: “Does dim esgusodion yn cael eu cynnig. Fe wnaethon nhw fowlio’n well na ni a dysgu gwers i ni, sef sut i fatio ar y llain hon a sut i fowlio ar y llain hon.

“Ry’n ni wedi trafod beth y’n ni’n credu aeth o’i le ond y peth pwysig yw peidio gor-feddwl am y peth oherwydd ymhen 10 diwrnod, fe fydd gyda ni uffar o gyfle [rownd wyth ola’r T20 Blast yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd].

“Y cynllun heddiw oedd peidio mynd yn rhy galed ar y dechrau ac os edrychwch chi ar y wicedi gollon ni, doedden nhw ddim wedi digwydd oherwydd bo ni’n rhedeg i lawr y llain, yn bwrw ymyl y bat nac yn ei bwrw hi i’r awyr.

“Aethon ni allan i drio sicrhau bod gyda ni hanner y rhediadau ar y bwrdd gyda thair wiced i lawr ar y mwyaf. Dyna oedd y cynllun ond wnaeth y cynllun ddim gweithio ac fe dalon ni’r pris.”

Dydy Croft ddim yn disgwyl i’r canlyniad ddydd Sul i darfu ar eu paratoadau ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Efrog, lle byddai buddugoliaeth yn golygu sicrhau eu lle yn Niwrnod y Ffeinals yn Edgbaston ar Awst 20.

“Mae gyda ni lot o chwaraewyr profiadol yn yr ystafell newid. Rhan o fod yn gricedwr sydd wedi chwarae ers amser hir yw bo chi’n dangos gwytnwch. Mae bod lan a lawr yn rhan o’r tymor criced.”

San Helen

Er gwaetha’r canlyniad, mae Croft yn croesawu’r cyfle i gynnal ambell gêm y tu allan i bencadlys y sir yng Nghaerdydd.

“Ry’n ni wrth ein bodd yn cael dod i San Helen. Ar y cyfan, mae’r llain yn dda. Mae’n annog y bowlwyr cyflym y batwyr a’r troellwyr… ry’ch chi’n cael gemau da o griced yma.

“Roedd y gêm Bencampwriaeth ddiwethaf ym Mae Colwyn yn uffar o gêm dda ac fe enillon ni, ac fe ddangosodd y bois rai arwyddion da.”

Cyn i’r wythnos flynyddol o griced yn San Helen barhau ddydd Mercher, mae gan Forgannwg daith i’r Oval i herio Swydd Surrey yn y gystadleuaeth 50 pelawd, ac mae Croft yn disgwyl rhoi cyfle i rai o’r chwaraewyr profiadol orffwys.

“Bydd cyfle efallai i rai o’r chwaraewyr ifainc yn y gystadleuaeth hon. Mae hi bron yn amhosib mynd drwodd nawr felly byddwn ni’n rhoi cyfle i rai o’r bois ifainc chwarae.

“Mae sgwad fach gyda ni. Mae nhw wedi cael llawer o griced dros y mis sydd wedi mynd, ond rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar y gemau i ddod, ac edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Swydd Efrog.”

Owen Morgan

Un o’r chwaraewyr hynny a allai chwarae ei ran yn yr wythnos i ddod yw’r troellwr llaw chwith ifanc o’r Hendy, Owen Morgan – un o’r chwaraewyr hynny sydd â  dyfodol disglair o’i flaen, yn ôl Croft.

“Mae Owen wedi gwneud yn dda iawn. Mae e’n fachgen oedd yn chwarae i’w glwb [Pontarddulais] y llynedd. Fe gafodd e gyfle i fynd allan i Adelaide i’r Lehmann Academy dros y gaeaf, a chwarae teg, mae e wedi neidio ar y cyfle gyda’i ddwy law.

“Mae e’n gricedwr di-ffwdan a dw i’n golygu hynny mewn ffordd bositif iawn. Mae’n bwrw iddi ac mae e’n canolbwyntio’n arbennig o dda. Mae e am fod yn gricedwr proffesiynol, mae e’n awchu am hynny ac mae hynny’n grêt. Mae’n dda o’i safbwynt e ac mae’n ysgogi’r troellwyr eraill yn y garfan.”

Mae disgwyl i Morgan gael ei enwi yn y garfan ar gyfer y gêm yn Abertawe ddydd Mercher, ynghyd â’r troellwr arall o Gymru, Andrew Salter.

Ychwanegodd Croft: “Mae Andrew Salter hefyd yn Gymro, yn fachgen o Lanismel yn Sir Benfro. Bydden i’n synnu, os yw’r tywydd yn braf, pe na bai’r ddau [Morgan a Salter] yn chwarae.”