Mae Morgannwg wedi colli o 186 o rediadau yn erbyn Swydd Hampshire yn San Helen yn Abertawe yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London.

Mae’r canlyniad ymhlith eu gwaethaf erioed mewn gornest undydd, ac mae’n golygu bod eu lle yn y gystadleuaeth yn y fantol.

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf, sgoriodd yr ymwelwyr 316-5 yn eu 50 pelawd, wrth i Liam Dawson daro 100 heb fod allan.

Adeiladodd Will Smith a Liam Dawson bartneriaeth o 86 am y bedwaredd wiced, ac fe ychwanegodd Dawson a Ryan McLaren 60 am y pumed wiced i sicrhau bod yr ymwelwyr yn sgorio ymhell y tu hwnt i’r disgwyl.

Wrth ymateb i’r her o sgorio 317 am y fuddugoliaeth, collodd Morgannwg bum wiced am saith rhediad ar ôl bod yn 29-6 o fewn deuddeg pelawd cynta’r batiad.

Dim ond partneriaethau o 30 rhwng Mark Wallace a Craig Meschede a 30 arall rhwng Meschede a Timm van der Gugten wnaeth sicrhau bod Morgannwg yn cyrraedd cyfanswm parchus, ond roedd yr ornest y tu hwnt i’w gafael yn gynnar iawn yn y batiad.

Cipiodd Ryan McLaren bedair wiced am 42, a Gareth Berg bedair wiced am 25 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 130 o fewn 32 pelawd.

Manylion

Dechrau digon siomedig gafodd yr ymwelwyr ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf. Collon nhw eu wiced gyntaf o fewn wyth pelawd, wrth i Jimmy Adams gael ei fowlio gan Timm van der Gugten am 21, cyn i ymdrech acrobataidd gan Graham Wagg ar ymyl y cylch waredu Tom Alsop oddi ar fowlio Craig Meschede am 35, a Swydd Hampshire erbyn hynny’n 76-2 cyn diwedd yr unfed pelawd ar bymtheg.

Daeth partneriaeth o 61 rhwng Joe Weatherley a Will Smith i ben yn y seithfed pelawd ar hugain wrth i Weatherley gael ei ddal gan Wagg oddi ar fowlio Colin Ingram am 27, a’r ymwelwyr erbyn hynny’n 137-3.

Cyrhaeddodd Will Smith ei hanner canred yn y nawfed pelawd ar hugain, a hynny oddi ar 67 o belenni. Roedd Smith eisoes wedi cael ei ollwng gan Aneurin Donald pan oedd e ar 23. Daeth batiad Smith i ben yn y pen draw ar 84, wrth iddo daro pelen fer yn uchel i’r awyr ac i lawr corn gwddf David Lloyd ar y ffin ar ochr y goes, a’r ymwelwyr yn 223-4 ym mhelawd rhif 43.

Cyrhaeddodd Liam Dawson ei hanner canred yn fuan wedyn wrth i Ryan McLaren ddod i’r llain. Ychwanegodd McLaren (33) a Liam Dawson 60 at y cyfanswm, cyn i McLaren gael ei ddal ar y ffin gan Colin Ingram ym mhelawd rhif 49 oddi ar fowlio Wagg wrth ei tharo hi’n syth i lawr y wiced.

Cyrhaeddodd Dawson (100 heb fod allan) ei ganred oddi ar belen ola’r batiad gyda chwech, a’i fatiad yn cynnwys tri phedwar a phedwar chwech oddi ar 68 o belenni.

Cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib wrth gwrso 317, wrth i Ryan McLaren ddarganfod coes David Lloyd o flaen y wiced oddi ar belen gynta’r batiad, cyn i’r capten Jacques Rudolph daro ergyd ddi-angen i lawr ochr y goes ac yn syth i ddwylo’r wicedwr Lewis McManus oddi ar yr un bowliwr, a Morgannwg yn 22-2 o fewn saith pelawd. Aeth 22-2 yn 22-3 wrth i Will Bragg gael ei ddal gan McManus oddi ar fowlio Gareth Berg heb sgorio yn y belawd ganlynol.

Collodd y Cymry eu pedwaredd wiced ar 24, wrth i Ingram daro’r bêl yn syth i’r awyr ac i ddwylo Mason Crane a dilynodd Aneurin Donald yn fuan wedyn wrth daro ergyd ysgafn yn syth i Gareth Andrew oedd yn maesu’n agos ar ochr y goes oddi ar fowlio Berg am 1. Cipiodd Berg ei bedwaredd wiced mewn 16 o belenni wrth ddarganfod coes Wagg o flaen y wiced, a Morgannwg yn 29-6 o fewn deuddeg pelawd. Erbyn hynny, roedd Morgannwg wedi colli pum wiced am saith rhediad.

Ychwanegodd Mark Wallace a Craig Meschede 30 rhediad at y cyfanswm cyn i Wallace ergydio pelen lydan drwy ei goesau ac i ddwylo McManus oddi ar fowlio Gareth Andrew, a Morgannwg yn 59-7. Cipiodd Andrew ei ail wiced mewn dwy belen wrth i Andrew Salter gam-daro pelen syth i gyfeiriad Jimmy Adams yn y slip, a Morgannwg yn 59-8.

Ychwanegodd Craig Meschede a Timm van der Gugten 35 am y nawfed wiced cyn i’r Iseldirwr gael ei ddal gan Liam Dawson oddi ar fowlio Ryan McLaren am 20, a Morgannwg yn 94-9 yn y drydedd pelawd ar hugain.

Ychwanegodd Meschede a Michael Hogan 36 am y wiced olaf, ond roedd y batiad ar ben mewn 32 o belawdau.