Mae’r troellwyr o Gymru, Owen Morgan ac Andrew Salter wedi’u cynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y daith i Southampton i herio Swydd Hampshire yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast nos Iau.
Mae’r batiwr ifanc o Gymru, Kiran Carlson hefyd wedi’i gynnwys am y tro cyntaf y tymor hwn.
Ond does dim lle i Chris Cooke na Dean Cosker, gyda’r ddau ohonyn nhw wedi’u hanafu.
Byddai buddugoliaeth dros y tîm sydd ar waelod y grŵp yn golygu bod Morgannwg yn dychwelyd i frig y tabl, a lle yn rownd yr wyth olaf o fewn cyrraedd pe bai’r canlyniadau nos Wener yn mynd o’u plaid.
Ond mae Morgannwg yn dechrau’r ornest hon ar ôl colli yn erbyn Swydd Gaerloyw ddydd Sul.
Dywedodd y prif hyfforddwr Robert Croft: “Ry’n ni’n hapus gyda’r ffordd ry’n ni wedi mynd o gwmpas pethau. Ry’n ni’n ddiolchgar iawn am beth y’n ni wedi cyflawni hyd yn hyn, ond dyw e ddim yn meddwl llawer nes bo ni’n gorffen y job.
“Ry’n ni’n gwybod yr heriau o’n blaen ni a byddwn ni’n mynd at bob gêm yn unigol. Os y’n ni’n symud i’r cyfeiriad iawn, bydd y canlyniadau’n dod.”
Bydd y Saeson heb James Vince, Michael Carberry, Mason Crane, Gareth Berg a chyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, Darren Sammy. Ond mae Croft yn credu bod y gwrthwynebwyr yn gystadleuol hebddyn nhw.
“Ry’n ni’n trin pob tîm gyda’r un faint o barch ac yn canolbwyntio ar gael dechrau da i’r gêm.”
Ond mae Swydd Hampshire ar waelod y tabl ar ôl ennill un gêm yn unig allan o ddeg.
Carfan Swydd Hampshire: J Weatherley, A Wheater, T Alsop, S Ervine (capten), L Dawson, L McManus, Shahid Afridi, B Taylor, G Andrew, G Griffiths, B Wheal, T Best, J Goodwin
Carfan Morgannwg: M Wallace, D Lloyd, C Ingram, J Rudolph (capten), A Donald, G Wagg, C Meschede, A Salter, T van der Gugten, M Hogan, S Tait, O Morgan, K Carlson