Mae’r batiwr ifanc Nick Selman wedi derbyn cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda Chlwb Criced Morgannwg tan 2019.

Mae’r Awstraliad wedi creu argraff fel aelod o’r ail dîm y tymor hwn, wrth iddo daro canred yn y ddau fatiad yn erbyn Swydd Surrey.

Arweiniodd y perfformiad hwnnw at ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Daeth Selman i Forgannwg fis Tachwedd y llynedd ar gytundeb blwyddyn, a hynny’n dilyn cyfnodau gydag ail dimau Swydd Gaint a Swydd Gaerloyw.

Daeth i’r byd criced yn wreiddiol ar ôl cefnu ar y byd pêl-droed Awstralaidd, yr AFL.

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae ei berfformiadau yn yr ail dîm wedi creu argraff sylweddol a gobeithio y gall e barhau i wella a chreu argraff yn nhîm cyntaf Morgannwg.

“Mae Clwb Criced Morgannwg wedi ymroi i roi cyfleoedd i gricedwyr ifainc dawnus ac mae Nick yn sicr yn y categori hwnnw.”

Ychwanegodd Nick Selman: “Rwy wrth fy modd o gael sicrhau fy nyfodol tymor hir gyda Morgannwg. Mae’n glwb gwych a chanddo hanes ffantastig ac mae’r gefnogaeth rwy wedi’i chael ers cyrraedd yma wedi bod yn wych.

“Gobeithio y galla i gael dyfodol hir gyda’r clwb.”