Mae Morgannwg yn teithio i Gaergaint ddydd Sul i herio Swydd Gaint yng nghwpan 50 pelawd Royal London.

Mae gan y cae hwn yn ne-ddwyrain Lloegr le pwysig yn hanes Morgannwg, gan mai yn y fan honno y cododd y sir dlws cynghrair undydd Axa Equity & Law yn 1993.

Mae Morgannwg ar frig y tablau 50 pelawd ac 20 pelawd ar hyn o bryd.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn y T20 pan gyfarfu’r ddwy sir yn Tunbridge Wells y tymor diwethaf, ond y Saeson oedd sicrhaodd y fuddugoliaeth mewn gêm 50 pelawd yn 2014.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Gaint ar eu tomen eu hunain ers 2004, y tymor pan enillodd Morgannwg y gynghrair undydd.