Cynnal momentwm yn allweddol i Forgannwg, medd Colin Ingram
Roedd nifer o berfformiadau clodwiw ymhlith chwaraewyr Morgannwg nos Fercher wrth iddyn nhw drechu Siarcod Swydd Sussex o 84 rhediad yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London yng Nghaerdydd.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu eu bod nhw’n aros ar frig y tabl yn y gystadleuaeth, ac maen nhw hefyd ar frig y tabl T20.
Tarodd Chris Cooke 80 ac roedd hanner canred yr un i Aneurin Donald (53) a Graham Wagg (52) wrth i Forgannwg sgorio 302-6 yn eu 50 pelawd.
Cipiodd y bowliwr cyflym Michael Hogan bedair wiced am 41 oddi ar 8.4 o belawdau, ac roedd dwy wiced yr un i Craig Meschede (2-30) a’r troellwr llaw chwith Dean Cosker (2-45).
Luke Wright oedd yr unig fatiwr o nod i Swydd Sussex, wrth iddo daro 65 cyn cael ei ddal yn gampus ar y ffin gan y capten dros dro, Colin Ingram. Ingram oedd yng ngofal y tîm ar ôl i Rudolph orfod gadael y cae tra’n batio ar ôl cael ei daro ar ei fraich.
Bu’n rhaid i Rudolph gael pelydr-x ar ei fraich, ond mae Morgannwg yn ffyddiog y bydd e’n holliach ar gyfer y daith i Fryste nos Wener.
Trysori’r fuddugoliaeth
Cafodd yr ymwelwyr eu bowlio allan am 218 mewn 42.4 o belawdau ac roedd y fuddugoliaeth yn un i’w thrysori yn ôl Colin Ingram.
Dywedodd Ingram wrth Golwg360: “Yn amlwg wnaethon ni ddechrau gyda rhediad anodd yn y gystadleuaeth pedwar diwrnod felly mae’n braf cael cwpwl o fuddugoliaethau y tu ôl i ni a chael rhywfaint o fomentwm.
“Mae’r bois wedi gweithio’n galed iawn oddi ar y cae yn nhermau awyrgylch y tîm, gan sicrhau ein bod ni’n bositif iawn. Dwi wedi teimlo dros y gemau diwethaf fod hynny wedi dod yn amlwg. Mae’r bois wedi chwarae criced da a chlyfar, ac ry’n ni wedi ennill cwpwl o gemau felly mae hynny’n wych.”
Dywedodd Ingram fod cynnal yr awyrgylch yn allweddol wrth i Forgannwg geisio gwneud yn iawn am y dechrau siomedig i’r tymor.
“Yng nghyd-destun tymor y siroedd, mae e’n hollbwysig gan fod cynifer o ddiwrnodau o griced ar y cae felly mae angen i chi gael awyrgylch o fewn eich tîm. Yn sicr, dwi’n teimlo bod yna ffocws wrth ddod i mewn i’r tymor. Dyna sydd wedi ein cario ni drwodd, er ein bod ni wedi colli nifer o weithiau.
“Fe chwaraeon ni griced da a chlyfar. Gwnaeth y batwyr sefyll gyda’i gilydd ac adeiladu cwpwl o bartneriaethau. Yn y maes, roedd yr awyrgylch yn wych. Yn aml ry’ch chi’n creu awyrgylch yn y gemau T20 wrth faesu ond roedd hynny’n gyson drwy gydol y noson. Roedd y bois yn awchu am fuddugoliaeth felly roedd hynny’n wych.”
Colin y capten
Yn absenoldeb yr is-gapten Mark Wallace, sydd yn dueddol o chwarae gemau pedwar diwrnod yn unig ar hyn o bryd, gwnaeth Morgannwg droi at Ingram i arwain y tîm yn y maes gan nad oedd Rudolph wedi gallu dychwelyd ar ôl cael ei anafu.
“Yn ffodus, dyw’r swydd ddim yn un newydd i fi. Dwi wedi bod yn ei gwneud hi ers sawl blwyddyn bellach. Dwi’n ei gwneud hi am chwe mis bob blwyddyn adre yn gapten llawn amser felly dyw e ddim yn rhywbeth dieithr i fi. Mae chwarae gyda chriw o fois dwi’n dod ymlaen cystal gyda nhw’n gwneud y peth lawer iawn haws.”
Roedd Ingram yn ei chanol hi a gyfer digwyddiad tyngedfennol yr ornest wrth i Luke Wright golli ei wiced, oedd yn golygu i bob pwrpas bod yr ornest ar ben a bod Morgannwg gam yn nes at y fuddugoliaeth. Wrth geisio’r daliad, aeth y bêl dros ysgwydd Ingram, ond fe lwyddodd i droi mewn pryd, cael sawl bys ar y bêl a dal ei afael arni wrth geisio aros ar ei draed.
Ychwanegodd Ingram: “Wnes i rywfaint o gawlach ohono fe. Aeth hi dros yr ysgwydd felly mae bob amser yn braf pan aiff e fewn. Yn amlwg, mae Luke Wright yn chwaraewr da ac roedd e wedi hen ymsefydlu ac mae’n gallu bod yn beryglus iawn tua’r diwedd, felly ro’n i’n falch ei bod hi wedi mynd i mewn ac os y’ch chi’n cipio un o’r rheiny ar ôl dyddiau o ymarfer, mae’n un i’w gofio wedyn.”
Hyder
Mae Ingram yn ffyddiog fod gan Forgannwg ddigon o ddyfnder yn eu carfan erbyn hyn i fod yn gystadleuol yn y gemau undydd y tymor hwn. Cafodd hynny ei brofi i raddau ar ôl iddyn nhw benderfynu rhoi seibiant i Timm van der Gugten, sydd wedi bod yn berfformiwr cyson gyda’r bêl y tymor hwn yn y gemau ugain pelawd a 50 pelawd.
Meddai Ingram: “Ry’n ni wedi tyfu fel carfan o’i gymharu â’r tymor diwethaf. Y llynedd, fe gawson ni drafferth ac roedd gyda ni garfan fach felly da iawn reolwyr am ehangu’r garfan. Mae bois fel Timm yn gaffaeliad gwych i ni. Mae’n braf gweld pobol wahanol yn rhoi eu dwylo lan bob wythnos.”
Mae sylw Morgannwg bellach yn troi at eu taith i Fryste nos Wener yn y T20 Blast i herio Swydd Gaerloyw. Y Cymry oedd yn fuddugol pan gyfarfu’r ddwy sir yn y gystadleuaeth 50 pelawd nos Lun, a hynny o 52 rhediad.
Dywed Ingram fod y garfan yn edrych ymlaen at y gêm a’u bod nhw’n teimlo’n hyderus y gall y buddugoliaethau barhau i ddod.
“Does dim rheswm peidio bod [yn hyderus am nos Wener] ar ôl sawl buddugoliaeth a theimlad da ymhlith y bois. Ry’n ni’n gwybod fod Swydd Gaerloyw’n dîm peryglus. Os gallwn ni eu curo nhw, bydd hynny’n wych.”