Roedd Will Bragg ddeg rhediad yn brin o’i gyfanswm unigol gorau erioed mewn gêm Bencampwriaeth ar ddiwedd trydydd diwrnod yr ornest rhwng Morgannwg a Swydd Essex yng Nghaerdydd.
Wrth daro’i ail ganred y tymor hwn, cynigiodd Bragg (119 heb fod allan) obaith i Forgannwg o guro Swydd Essex wrth i’r ornest yn yr ail adran dynnu tua’i therfyn.
Sgoriodd Bragg 129 oddi cartref yn erbyn Swydd Derby fis diwethaf, ac roedd e ddeg rhediad yn brin o guro’i record ei hun erbyn diwedd y dydd, a hynny ar ôl cyrraedd ei ganred oddi ar 196 o belenni.
Ar ddiwedd y batiad cyntaf yn gynharach yn y dydd, roedd gan Swydd Essex flaenoriaeth o 53 rhediad, a hynny ar ôl i Timm van der Gugten o’r Iseldiroedd gipio pum wiced am 90 i gyfyngu’r ymwelwyr i 313.
Ond dechrau digon siomedig gafodd Morgannwg i’w hail fatiad hwythau wrth iddyn nhw golli’r capten Jacques Rudolph am 0, a’r cyfanswm ar y pryd yn 2-1.
Mae’r batiwr o Dde Affrica wedi sgorio 223 o rediadau’n unig mewn 11 batiad y tymor hwn yn y Bencampwriaeth ar gyfartaledd o 22.30, ac mae’r cwestiynau am ei le yn y tîm yn debygol o barhau ar ôl heddiw.
Yn nwylo Bragg roedd tynged Morgannwg ar ôl colli Rudolph, felly, ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 107 am yr ail wiced gyda’r wicedwr Mark Wallace (40) i wyrdroi’r sefyllfa.
Pan ddaeth Chris Cooke (59) i’r llain, parhau i lifo wnaeth y rhediadau ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 106 gyda Bragg am y drydedd wiced.
Erbyn diwedd y dydd, roedd Morgannwg yn 295-3, ac roedd ganddyn nhw flaenoriaeth o 242 dros yr ymwelwyr.
Mae Aneurin Donald (44 heb fod allan) wrth y llain gyda Bragg, ac maen nhw wedi adeiladu partneriaeth o 80 hyd yn hyn.
‘Digon yn y llain’
Ar ddiwedd y dydd, dywedodd Will Bragg: “Roedd yn un o’r diwrnodau hynny lle aeth pethau o’n plaid ni, ac fe adeiladon ni gwpwl o bartneriaethau o dros gant ar gyfer yr ail a’r drydedd wiced.
“Ond mae digon yn y llain gyda’r bêl newydd er mwyn dymchwel yn gyflym.
“Os gallwn ni gael rhagor o rediadau yn y bore a mynd atyn nhw’n galed am ddwy sesiwn a hanner, fe ddylai fod yn ddiweddglo da i’r gêm.”