Pum wiced i fowliwr rhyngwladol yr Iseldiroedd, Timm van der Gugten, am y tro cyntaf i Forgannwg
Cipiodd Timm van der Gugten bum wiced am y tro cyntaf erioed i Forgannwg ar ddechrau trydydd diwrnod eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Essex yng Nghaerdydd.

Roedd yr ymwelwyr yn 300-9 dros nos ond o fewn chwarter awr, daeth eu batiad i ben wrth i’r capten Ryan ten Doeschate gael ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace am 48.

Gorffennodd van der Gugten, sy’n cynrychioli’r Iseldiroedd ar y llwyfan rhyngwladol, gyda phum wiced am 90 rhediad.

Dyma’r trydydd tro yn ei yrfa dosbarth cyntaf iddo gipio pum wiced – ei ffigurau gorau erioed yw 7-68, a hynny mewn gornest ryngwladol rhwng yr Iseldiroedd a Namibia yn 2013.

Wrth i Forgannwg ddechrau eu hail fatiad, maen nhw ar ei hôl hi o 53 rhediad.