Mae prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Robert Croft wedi dweud bod y tîm yn barod am frwydr wrth iddyn nhw deithio i Derby yn ail adran y Bencampwriaeth ddydd Sul.

Collodd Morgannwg o 10 wiced yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn eu gêm gyntaf yr wythnos diwethaf.

Mae’r troellwr o Sir Benfro, Andrew Salter wedi’i gynnwys yn y garfan o 13, ynghyd â’r bowliwr ifanc Harry Podmore, sydd ar fenthyg o Swydd Middlesex am ran gynta’r tymor.

Mae’r batiwr o Dde Affrica allan gydag anaf i gesail y forddwyd.

Ymhlith carfan Swydd Derby mae cyn-fowliwr Morgannwg, Andy Carter a dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda’r sir yn 2014, a batiwr Seland Newydd Hamish Rutherford.

Dywedodd Robert Croft: “Does dim y fath beth â thimau gwan yn yr adran hon erbyn hyn.

“Os edrychwch chi ar y chwaraewyr mae Swydd Gaerlŷr wedi’u harwyddo a’r ffordd maen nhw wedi cryfhau’r garfan, rwy’n credu bod Swydd Derby wedi gwneud yr un peth.

“Bydd pob gêm yn yr adran hon yn gystadleuol iawn, dim ond un tîm sy’n gallu ennill dyrchafiad o’r adran ac mae pob tîm yn mynd amdani i gael y safle yna. Bydd hi’n frwydr y naill ffordd neu’r llall.”

Un chwaraewr sy’n hen gyfarwydd â’r llain a’r elfennau yn Derby yw bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Graham Wagg, a dreuliodd chwe thymor rhwng 2005 a 2010 gyda’r sir cyn symud i Gymru.

Ar drothwy’r ornest, dywedodd Wagg: “Roedd hi’n ddechrau siomedig ac yn siom i golli’r gêm gyntaf.

“Chwaraeodd rhai o’r batwyr yn dda, ac roedd peth bowlio da.

“Ar y cyfan, mae’r llain yn Derby yn wyrdd ac mae hi’n llamu rywfaint. Chwaraeais i yno am chwe blynedd ac fe fyddwn i’n dweud ei bod hi’n un o’r lleiniau gorau yn y wlad.

“Gwnaethon ni dan-gyflawni yn y gêm diwethaf. Rhaid i ni ddechrau’n well yn erbyn Swydd Derby.”

Carfan 13 dyn Swydd Derby: B Slater, C Hughes, H Rutherford (capten), W Madsen, N Broom, S Thakor, W Durston, T Poynton, T Palladino, B Cotton, L Fletcher, A Carter, M Critchley

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), J Kettleborough, W Bragg, C Cooke, A Donald, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, M Wallace, M Hogan, T van der Gugten, A Salter, H Podmore