Swydd Gaerlŷr yw gwrthwynebwyr cyntaf Morgannwg yn ail adran y Bencampwriaeth yn y Swalec SSE ddydd Sul.

Cyn-fatiwr agoriadol Morgannwg, Mark Cosgrove yw capten yr ymwelwyr, ac maen nhw hefyd wedi cynnwys cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Mark Pettini yn eu carfan, ac yntau wedi symud i’r sir dros y gaeaf.

Hon fydd gornest Bencampwriaeth gyntaf Robert Croft fel prif hyfforddwr Morgannwg, ac mae dau o wynebau newydd y sir, Timm van der Gugten a Harry Podmore wedi’u cynnwys ymhlith yr 14.

Mae Craig Meschede hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf i’r Cymry ers iddo symud yn barhaol o Wlad yr Haf.

Mae Morgannwg yn ddi-guro yn eu saith gêm diwethaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn y gwŷr o Ganolbarth Lloegr, ac mae’r ymwelwyr wedi gorffen ar waelod ail adran y gystadleuaeth am y tair blynedd diwethaf.

Darlledu

Hon fydd yr ornest Bencampwriaeth gyntaf erioed i’w darlledu’n llawn ar y we, gyda delweddau’n cael eu ffrydio ar wefan Morgannwg, www.glamorgancricket.com a sylwebaeth yn cael ei darparu gan sylwebydd BBC Cymru, Nick Webb.

Bydd holl gemau cartref Morgannwg yn y Bencampwriaeth yn cael eu darlledu yn y modd yma.

Barod amdani

Ar drothwy’r gêm Bencampwriaeth gyntaf, dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph fod ei dîm yn barod am y tymor newydd.

“Dwi’n credu bod ein paratoadau wedi mynd yn dda iawn, ry’n ni wedi chwarae nifer o gemau ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod ein batwyr mewn sefyllfa dda ac mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi cael amser gwerthfawr yn y canol.”

Ychwanegodd Rudolph ei fod yn hyderus y gall y bowlwyr gipio’r 20 wiced er mwyn ennill yr ornest.

“Ry’n ni wedi arwyddo cwpwl o chwaraewyr newydd. Mae gyda ni Timm van der Gugten a Harry Podmore i roi hwb i’n hymosod bowlio.”

Gydag un tîm yn unig yn gallu ennill dyrchafiad o’r ail adran y tymor hwn, dywedodd Rudolph y gallai dechrau’r tymor gyda buddugoliaeth fod yn allweddol i lwyddiant Morgannwg y tymor hwn.

“Mae’n beth enfawr os gallwn ni adeiladu momentwm drwy gydol y chwe gêm gyntaf, bydd hynny’n rhoi cyfle da i ni gystadlu am y llefydd uchaf.

“Ry’n ni am ddechrau’n dda. Fe wnaethon ni eu curo nhw yma’r tymor diwethaf a bydd y bois yn hyderus yn sgil hynny.”

Ymateb yr ymwelwyr

Ychwanegodd capten Swydd Gaerlŷr, Mark Cosgrove: “Mae’n rhaid mai mynd i fyny yw ein nod, ry’n ni wedi enwi carfan o 13 ac mae’n edrych yn gryf iawn.

“Mae gyda ni un o’r carfannau cryfaf yn y gystadleuaeth, felly mae’n rhaid mai ein nod yw symud allan o’r ail adran.

“Ry’n ni’n mynd i chwarae mewn modd  ymosodol ac ry’n ni wedi dysgu tipyn, felly ry’n ni’n mynd i geisio symud ymlaen.”

Wrth drafod ei daith yn ôl i Gaerdydd, ychwanegodd Cosgrove: “Bydd hi’n anodd gan fod Morgannwg yn chwarae criced da, fe gawson nhw dymor da y tro diwethaf a byddan nhw’n awyddus i ddechrau’n dda hefyd.

“Ond tra ei bod hi bob amser yn braf cael dychwelyd a gweld nifer o wynebau cyfarwydd, peidiwch â chamddeall, dw i’n mynd yno ar fusnes.”

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), J Kettleborough, W Bragg, C Ingram, C Cooke, A Donald, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, M Wallace, A Salter, T van der Gugten, M Hogan, H Podmore

Carfan Swydd Gaerlŷr: M Cosgrove (capten), P Horton, N O’Brien, A Robson, N Dexter, M Pettini, Aadil Ali, J Naik, W White, B Raine, C McKay, Z Chappell, C Shreck