Y Bala 0–0 Llandudo
Mae’r frwydr am yr ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn parhau tan y penwythnos olaf yn dilyn gêm gyfartal rhwng y Bala a Llandudno ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd y Bala’r gêm yn ail, ddau bwynt uwch ben Llandudno a oedd yn drydydd, ac felly mae hi’n aros wedi gêm ddi sgôr.
Digon cyfartal oedd hi yn yr hanner cyntaf ond yr ymwelwyr a gafodd y cyfleoedd gorau yn yr hanner awr agoriadol.
Peniodd Liam Dawson heibio’r postyn agosaf wedi chwarter awr ac roedd Marc Williams yn meddwl ei fod yn haeddu cic o’r smotyn bymtheg munud yn ddiweddarach pan gafodd ei lorio gan Conall Murtagh yn y cwrt cosbi.
Bu rhaid aros tan funudau olaf yr hanner cyntaf cyn i’r Bala fygwth sgorio gydag Ian Sheridan yn dod yn agos wrth grymanu ergyd dros y trawst o ugain llath.
Daeth dau gyfle i’r tîm cartref yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner hefyd. Gwyrodd ergyd Mark Connolly oddi ar amddiffynnwr yn erbyn y trawst cyn i Stuart Jones benio’r bêl yn erbyn y pren o’r gic gornel ganlynol.
Patrwm tebyg oedd i’r ail hanner, dau dîm da yn hynod gyfartal a’r ddau amddiffyn yn cael y gorau o’r ddau ymosod.
Bu rhaid aros tan y chwarter awr olaf am gyfleoedd gorau’r ddau dîm. Anelodd Marc Williams beniad rhydd dros y trawst o bedair llath i Landudno cyn i Lee Hunt benio heibio’r postyn o bellter tebyg yn y pen arall.
Gorffennodd y gêm yn gyfartal felly a dau bwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm o hyd gydag un gêm ar ôl. Taith i Gei Connah sydd yn aros y Bala ar y Sadwrn olaf, tra mae Llandudno yn croesawu’r Seintiau Newydd.
.
Y Bala
Tîm: Morris, Valentine, Stephens, S. Jones, Irving, Murtagh, Connolly, Burke (M. Jones 78’), Sheridan, Smith, Hunt (Hayes 90’)
.
Llandudno
Tîm: Roberts, Taylor, Joyce, Hughes, Thomas, Marc Williams, Shaw, Mike Williams, Dawson (Evans 85’), Dix, Buckley (Reed 80’)
Cerdyn Melyn: Thomas 56’
.
Torf: 371