Tarodd Chris Cooke a Colin Ingram ganred yr un ar ddiwrnod ola’r tymor criced i sicrhau bod Morgannwg a Swydd Gaerloyw yn gorffen yn gyfartal yn yr ornest yn ail adran y Bencampwriaeth ym Mryste.

Roedd Cooke wedi cyrraedd 102 heb fod allan, tra bod Ingram yn 101 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd 365-3 erbyn pelen ola’r ornest.

180 oedd y bartneriaeth am y bedwaredd wiced yn y pen draw.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn gorffen yn bedwerydd yn y tabl wedi iddyn nhw sicrhau 12 o bwyntiau. Cipiodd y Saeson 13 o bwyntiau.

Dechreuodd Morgannwg y diwrnod olaf ar 88-0, ac fe lwyddodd y Saeson i gipio tair wiced yn ystod sesiwn y bore, wrth i gapten y Cymry, Jacques Rudolph sgorio 69.

191-3 oedd y cyfanswm erbyn amser cinio, wrth i Ingram a Cooke a doedd dim arwydd bod y naill na’r llall mewn perygl o golli’u wicedi ar lain fflat.

Cymerodd hi 135 o belenni i Cooke gyrraedd ei ganred cynta’r tymor hwn, mewn batiad oedd yn cynnwys 12 pedwar a dau chwech.

Wynebodd Ingram 220 o belenni cyn cyrraedd y nod am yr ail waith yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac yntau wedi taro 11 pedwar ac un chwech.

Fe fydd yr ornest hon yn cael ei chofio’n bennaf am y nifer o recordiau a gafodd eu torri neu eu cwrso, yn hytrach nag am safon y criced.

Wrth i Forgannwg sgorio 433 yn eu batiad cyntaf, daeth y batiwr 18 oed, Aneurin Donald o fewn dau rediad i dorri record Matthew Maynard, y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred dosbarth cyntaf i’r sir.

Wrth i Swydd Gaerloyw ymateb gan sgorio 558, adeiladodd Chris Dent (268) a James Fuller (73) bartneriaeth o 168 am yr wythfed wiced, sy’n record yn erbyn Morgannwg yn y Bencampwriaeth.

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad 125 y tu ôl i Swydd Gaerloyw, ac fe lwyddon nhw i adeiladu mantais o 240 erbyn i’r ornest a’r tymor ddod i ben.

Bydd chwaraewyr a pherfformiadau gorau’r tymor yn cael eu gwobrwyo mewn noson arbennig yn Abertawe nos Lun.