Michael Hogan
Mae dau o’r Cymry ifainc ymhlith bowlwyr Morgannwg wedi cael eu canmol gan y bowliwr profiadol o Awstralia, Michael Hogan.

Yn ôl Hogan, sy’n arwain ymosod Morgannwg, mae gan y bowliwr 23 oed o Lanelwy, David Lloyd y potensial i ddatblygu i fod yn chwaraewr amryddawn disglair.

Fe ddaeth awr fawr Lloyd yn ystod yr ornest Bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Swydd Northampton yr wythnos diwethaf, pan darodd 92 gyda’r bat.

Ond mae Lloyd hefyd wedi cipio tair wiced mewn batiad dair gwaith yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Dywedodd Michael Hogan wrth Golwg360: “Dw i’n credu ei fod e wedi datblygu’n sylweddol. Dim ond yn ystod y tair blynedd diwethaf y dechreuodd e fowlio.

“Mae ei allu fel chwaraewr amryddawn wedi dod ymlaen ar ei ddegfed ac fe fydd e’n rhywun y byddwn ni’n troi ato i fatio yn safle rhif chwech ac i fowlio nifer sylweddol o belawdau i ni.

“Mae e wedi disgleirio gyda’i berfformiadau. Mae’n bosib ein bod ni wedi’i warchod e rywfaint gyda’r bat ar ddechrau’r flwyddyn.

“Ond ry’n ni wedi rhoi cyfle iddo fe yng nghanol y rhestr fatio yn ystod y gemau diwethaf, fe chwaraeodd e’n dda yn y gêm ddiwethaf a chael 47 yma [ym Mryste], felly mae e’n un boi sy’n sefyll allan.”

Dewi Penrhyn Jones

Er mai dwy gêm yn unig y mae e wedi’u chwarae’r tymor hwn, mae Dewi Penrhyn Jones yn un i’w wylio yn y dyfodol, yn ôl Hogan.

Chwaraeodd y bowliwr cyflym 21 oed o Wrecsam ddwy gêm Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor, gan gipio 3-55 yn erbyn Swydd Northampton yn ei gêm gyntaf.

“Mae Dewi Penrhyn Jones wedi gwneud yn iawn. Mae e wedi chwarae mewn dwy gêm ac mae’n bosib fod [y gêm] hon wedi’i orfodi i ddod at ei goed gyda’r llain fflat lle does dim lle o gwbl am gamgymeriadau.

“Ond fe fydd yn brofiad iddo ddysgu oddi wrtho. Ond mae e’n gyflym ac mae e’n sicr yn un i’w wylio yn y dyfodol.

“Profiad yw’r cyfan a rhoi cyfleoedd i’r bois ifainc hyn i ddangos eu gwerth a dangos beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig.

“Efallai na welwch chi nhw ar eu gorau oherwydd nerfau, yn amlwg, ond fe fydd y profiad yn allweddol iddyn nhw wrth fynd ymlaen i’r dyfodol.”

Dyfodol Hogan

Yn y cyfamser, mae Hogan, 34, wedi dweud ei fod yn gobeithio gorffen ei yrfa gyda Morgannwg, ac y byddai’n hapus i chwarae am dri thymor arall.

Dywedodd: “Dw i ddim yn meddwl y gallwn i chwarae unrhyw le arall [yn y DU], dw i wrth fy modd gyda’r clwb.

“Bydd rhaid i chi ofyn i [Brif Weithredwr Morgannwg] Hugh Morris ond byddwn i’n hapus gyda thair blynedd arall, efallai pump neu chwech.

“Mae’r cyfan yn dibynnu ar sut mae’r corff yn teimlo ac os ydw i’n perfformio ar y lefel yma.

“Os nad ydw i’n perfformio, yna mae’n wastraff amser, ond os yw’r corff yn dda ac mae’r clwb yn meddwl ei fod yn iawn, yna fe fydda i’n chwarae tra eu bod nhw am i fi wneud hynny.”