Collodd batiwr 18 oed, Aneurin Donald ei wiced ddau rediad yn brin o record i Forgannwg ar ail fore’r ornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Ar ddechrau’r bore, roedd Donald naw rediad yn brin o’i ganred cyntaf i’r sir, ac ef fyddai’r chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred yn y Bencampwriaeth i Forgannwg pe bai e wedi cyrraedd y garreg filltir.

Ond collodd ei wiced yn gynnar ar yr ail fore, wedi’i ddal gan Chris Dent oddi ar fowlio James Fuller am 98.

Tarodd Donald 12 pedwar yn ystod y batiad.

Cyn-gapten a chyn-hyfforddwr y sir, Matthew Maynard yw deilydd y record ar hyn o bryd, ac yntau’n 19 oed pan sgoriodd 102 yn erbyn Swydd Efrog yn San Helen yn 1985.

Roedd Donald eisoes wedi cyrraedd ei gyfanswm unigol gorau erioed ar y diwrnod cyntaf, gan guro’r 67 a darodd yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford ym mis Gorffennaf.