Fe fydd y capten Jacques Rudolph yn dychwelyd i garfan Morgannwg ar gyfer eu taith i Fryste ddydd Mawrth i herio Swydd Gaerloyw yn eu gêm olaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Daw Rudolph i mewn yn dilyn cyfnod tadolaeth yn Ne Affrica, wrth i’r wicedwr a’i is-gapten Mark Wallace golli gêm Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 2001.
Mae Wallace wedi anafu croth ei goes, ac mae’r anaf yn golygu bod y rhediad o 230 o gemau olynol yn dod i ben ar ôl 14 o flynyddoedd.
Mae disgwyl i Chris Cooke wisgo’r menyg ar gyfer yr ornest yn ei le.
Dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Dw i’n teimlo’n fawr dros Wally. Dw i’n aros gyda fe ar hyn o bryd ac yn fy nghael fy hun yn cario coffi o gwmpas ei dŷ gan ei fod e ar faglau.
“Mae Mark bob amser wedi bod yn llysgennad gwych i Forgannwg ac yn anffodus, mae e’n colli allan oherwydd anaf, ond mae’n galluogi rhywun fel fi i gamu’n ôl i mewn, ac mae’n fendith fod gyda ni chwaraewyr profiadol eraill felly rhaid i ni wneud y gorau o’r cyfan.”
Ychwanegodd Rudolph ei fod yn awyddus i orffen y tymor mewn modd positif, er bod eu gobeithion o gael dyrchafiad i’r adran gyntaf wedi hen fynd heibio.
Mae’r bowliwr ifanc, Dewi Penrhyn Jones yn cadw ei le yn y garfan, ac mae lle hefyd i’r chwaraewr amryddawn, David Lloyd.
“Fe wnes i ddilyn y gêm yn erbyn Swydd Northampton yr wythnos diwethaf ar ap yr ECB ac roedd yr adborth ges i gan Chris Cooke oedd yn cadw wiced i Dewi [Penrhyn Jones] yn bositif iawn, sy’n argoeli’n dda i ni, felly mae’n dda ei fod e’n cael cyfle ac fe gaiff e gyfle arall yfory, ac mae David Lloyd wedi creu argraff fawr arna i drwy’r tymor.
“Dydy Lloydy ddim wedi bowlio lot fawr yn ei fywyd, ond mae e wedi bowlio’n arbennig o dda i ni ar adegau eleni ac fe fydd y tymor hwn o safbwynt bowlio’n dda iawn iddo fe wrth fynd ymlaen i’r tymor nesaf.
“O safbwynt batio ar adegau’r tymor hwn mewn amodau anodd, mae e wedi dangos cryn gymeriad ac mae e’n gricedwr dawnus iawn felly gobeithio y bydd e’n gwneud yn dda y tymor nesaf hefyd.
“Mae’r potensial yna, os gallwn ni gerdded i ffwrdd gyda buddugoliaeth, y gallwn ni fod yn hyderus wrth fynd i mewn i’r tymor newydd y flwyddyn nesaf.”
Y gwrthwynebwyr
Fe fydd Swydd Gaerloyw’n teimlo’n hyderus ar gyfer y gêm Bencampwriaeth hon ar ôl codi cwpan 50 pelawd Royal London yn Lord’s ddydd Sadwrn.
Mae naw o’r chwaraewyr oedd yn y garfan ar gyfer yr ornest honno yn erbyn Swydd Surrey wedi’u henwi yn y garfan ar gyfer ymweliad Morgannwg.
Ond dau enw amlwg sydd ar goll yw Geraint Jones, oedd wedi chwarae ei gêm olaf ddydd Sadwrn cyn ymddeol, a’r capten Michael Klinger.
Yn absenoldeb Klinger, fe fydd Will Tavare yn arwain Swydd Gaerloyw.
Mae’r Saeson yn ddi-guro yn eu chwe gêm Bencampwriaeth diwethaf, ond mae eu gobeithion nhw o sicrhau dyrchafiad hefyd ar ben.
Carfan 13 dyn Swydd Gaerloyw: W Tavare (capten), C Dent, I Cockbain, G Roderick, H Marshall, B Howell, K Noema-Barnett, J Taylor, T Smith, J Fuller, C Miles, D Payne, T Hampton.
Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), J Kettleborough, A Donald, J Lawlor, C Ingram, C Cooke, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, A Salter, D Penrhyn Jones, M Hogan.