Diwrnod digon rhwystredig gafodd Morgannwg ar ddiwrnod cyntaf eu gornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Old Trafford ddydd Gwener.

Penderfynodd y tîm cartref fatio’n gyntaf ar ôl galw’n gywir ac ar ôl y penderfyniad i chwarae ar lain wahanol i’r disgwyl, a chyrraedd 161-3 erbyn diwedd y dydd.

Seren y Saeson oedd Karl Brown, wrth iddo daro 80 heb fod allan yn ystod batiad celfydd, ar ddiwrnod a gafodd ei chwtogi’n sylweddol gan y glaw.

Ond cipiodd bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg ddwy wiced am 40 i adael yr ornest yn y fantol gyda thridiau’n weddill.

Ar ddiwedd yr ornest, roedd Wagg yn ddigon bodlon.

“Dw i’n meddwl ei fod yn ddiwrnod da i ni i gyd, fe fyddai wedi bod yn braf pe baen nhw bum wiced i lawr ond yn anffodus, fe chwaraeodd y tywydd ran yn y cyfan heddiw.

“Mae’r llain yn ffantastic yma yn ôl yr arfer, ry’n ni’n debygol o weld y bêl yn troelli ychydig wrth i’r pedwar diwrnod fynd ymlaen ond dw i’n meddwl bod y bois wedi dal ati’n dda iawn heddiw.”

Fe fydd Morgannwg hefyd yn hapus mai dau o’r batwyr allan ar y diwrnod cyntaf oedd eu cyn-gapten Alviro Petersen, ac Ashwell Prince, oedd wedi adeiladu partneriaeth o 501 pan heriodd y ddwy sir eu gilydd ym Mae Colwyn fis diwethaf.

Ychwanegodd Wagg: “Mae’r ffaith fod y ddau yna allan yn fonws anferth i ni gan eu bod nhw wedi profi ym Mae Colwyn eu bod nhw, wrth sefydlu’u hunain, yn anodd iawn i’w cael allan.”