Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 224 yn eu hail fatiad i osod nod o 108 i Swydd Gaerloyw pan fydd pedwerydd diwrnod eu gornest Bencampwriaeth yn dechrau yn San Helen ddydd Sul.

Pe bai Morgannwg yn colli, dyma fyddai eu trydedd colled o’r bron yn ail adran y Bencampwriaeth.

Partneriaeth wiced olaf o 59 rhwng Michael Hogan (37 heb fod allan) ac Andrew Salter (38) oedd uchafbwynt batiad digon siomedig i Forgannwg ar y cyfan, ond mae’r bartneriaeth honno’n sicrhau bod Gŵyl Griced Abertawe a Gorllewin Cymru, wedi’i threfnu’n bennaf gan Orielwyr San Helen, yn para’r pum niwrnod.

Tarodd Hogan bedwar chwech i garlamu i 37 oddi ar 26 o belenni cyn i Salter golli ei wiced, wedi’i ddal gan Hamish Marshall oddi ar fowlio Kieran Noema-Barnett oddi ar belen ola’r dydd.

Colin Ingram oedd prif sgoriwr Morgannwg yn ystod y batiad gyda 45 ac roedd y Cymry’n 103-5 erbyn iddo yntau golli ei wiced.

Cwympodd y pum wiced olaf am 121 wrth i fowlwyr cydnabyddedig Morgannwg achub y Cymry gyda’r bat unwaith eto.

David Payne a Noema-Barnett wnaeth y difrod o ran y bowlwyr gyda saith wiced rhyngddyn nhw am am 78 rhediad.