Dau o gricedwyr Sir Benfro arweiniodd y ffordd i Forgannwg ar ddiwrnod cyntaf eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Abertawe.
Adeiladodd Andrew Salter a Kieran Bull bartneriaeth nawfed wiced ddi-guro o 85 wrth i Forgannwg gyrraedd 271-8 erbyn diwedd y dydd.
Roedd Morgannwg yn 186-8 pan ddaeth y ddau at ei gilydd.
Yn ystod y batiad ar ôl i Forgannwg alw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf, cyrhaeddodd Salter ei gyfanswm unigol dosbarth cyntaf gorau erioed o 73 heb fod allan i’r sir.
Roedd hynny’n welliant ar ei 54 yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd fis diwethaf.
Ac eithrio’r capten Jacques Rudolph (68), y troellwr 22 oed o Hwlffordd oedd unig fatiwr Morgannwg i gyrraedd ei hanner canred.
Wrth agor y batiad, tarodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph 68 oddi ar 95 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys 11 ergyd i’r ffin.
Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, roedd Morgannwg wedi cyrraedd 271-8, ac roedd Kieran Bull yn 21 heb fod allan.
Atgofion braf o San Helen
Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, dywedodd Andrew Salter: “Mae’n anodd chwarae llawer iawn o ergydion i’r dorf ond mater o aros wrth y llain oedd hi a gobeithio bod y rhediadau’n dod fel gwnaethon nhw.
“Dwi’n credu ein bod ni wedi gweithio’n dda gyda’n gilydd wrth drio cadw pethau’n syml, a gwnaeth Bully yn dda pan ddaeth y bêl newydd. Roedd pethau’n anodd ac roedd hi’n symud yn gyflym oddi ar y llain.”
Mae San Helen wedi bod yn gae llwyddiannus i Salter hyd yn hyn, wedi iddo gipio wiced gyda’i belen gyntaf mewn gornest ddosbarth cyntaf yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn 2013.
Ychwanegodd Salter: “Dw i’n credu y dylen ni chwarae mwy o gemau yn y gorllewin. Mae’n gae hyfryd ac mae gyda fi atgofion braf o wneud fy ymddangosiad cyntaf yma felly mae’n wych i wneud yn dda yma.”