Dim ond chwe phelawd gafodd eu bowlio yn San Helen heddiw, wrth i’r ornest 50 pelawd rhwng Morgannwg a Swydd Sussex yng nghwpan Royal London ddod i ben oherwydd y glaw.

Yr ymwelwyr oedd wedi ennill y dafl a gofyn i Forgannwg fatio’n gyntaf, ac roedd y Cymry’n 9-0 pan ddaeth y cyfan i ben.

Mae Gŵyl Griced Abertawe a Gorllewin Cymru’n parhau ddydd Iau gyda gornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw, a’r belen gyntaf yn cael ei bowlio am 11yb.