Mae’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg wedi’i enwi yng ngharfan Morgannwg i herio Eryr Swydd Essex yng Nghwpan 50 pelawd Royal London yn y Swalec SSE, ar ôl pasio profion cyfergyd.

Cafodd Wagg ei daro yn ei ben ddwywaith yn ystod yr ornest T20 Blast yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd nos Wener diwethaf, a doedd dim modd iddo chwarae nos Fawrth wrth i’r Cymry sicrhau buddugoliaeth gyffrous dros Spitfires Swydd Gaint.

Mae Morgannwg eisoes wedi curo Swydd Essex yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac maen nhw’n gobeithio adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y fformat 50 pelawd.

Dechrau cymysg

Ar drothwy’r ornest, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Roedd adegau hir yn ystod y gêm yn erbyn Spitfires Swydd Gaint nad oedden ni ynddi go iawn.

“Dim ond i un cyfeiriad roedd yr ornest yn mynd, ond fe wnaeth y toriad am law a pherfformiad rhagorol gan Chris Cooke wyrdroi’r ornest o’n plaid ni.

“Fe gafodd Colin Ingram ei ganred cyntaf i ni’n gynharach yn y gêm ac fe osododd e a Will Bragg y seiliau i ni, ond batiad Cooke newidiodd y gêm.

“Mae Chris yn fatiwr ymosodol iawn, felly ry’ch chi bob amser yn gwybod ei fod e’n gallu cael batiad fel ’na ac mae e wedi gwneud hynny mewn gemau T20 i ni yn y gorffennol.

“Ry’n ni wedi dweud yn yr ystafell newid y byddwn ni’n mynd ati’n galed iawn yn y gystadleuaeth hon a rhoi ein cynnig gorau arni.

“Yn anffodus ar ôl dechrau’n dda yn erbyn Swydd Notts, fe ddifethodd y glaw y gêm, ond fe gawson ni un pwynt a gêm gyfartal.

“Wedyn yn erbyn Swydd Gaint, ry’n ni bob amser yn cael gemau agos yn eu herbyn nhw, fe wnaethon ni eu curo nhw yn Tunbridge Wells yn y T20 oddi ar y belen olaf a chael gornest gyfartal oddi ar y belen olaf yng Nghaerdydd yn y T20 y llynedd, ac ennill gydag ychydig [o belenni] sbâr yn gynharach yr wythnos hon, felly fe ddylen ni fod wedi sylweddoli y byddai hi’n agos iawn.

Wagg yn edrych ymlaen

Ychwanegodd Graham Wagg: “Dw i’n teimlo’n dda, mae’r cyfergyd wedi mynd yn llwyr, dim ond un bach oedd e beth bynnag dw i’n meddwl.

“Dw i wedi cael sesiwn go dda yn y gampfa ac wedi bod yn taro peli. Fe wnaeth y bois fowlio ychydig o fownsars ata i, ac ro’n i’n gwerthfawrogi hynny!”

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, A Donald, C Cooke, M Wallace, C Meschede, G Wagg, D Lloyd, A Salter, R Smith, D Cosker, M Hogan

Carfan Eryr Swydd Essex: R ten Doeschate (capten), J Ryder, M Pettini, T Westley, R Bopara, J Foster, K Velani, G Napier, D Masters, R Topley, N Browne, J Porter, A Nijjar