Mae hyfforddwr tîm criced Awstralia, Darren Lehmann yn dweud bod angen i’w dîm dysgu gwersi ar ôl colli o 169 o rediadau yn y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw yng Nghaerdydd.

Er i Awstralia lwyddo i fowlio Lloegr allan yn y ddau fatiad, roedden nhw’n brin iawn o rediadau ar lain oedd wedi ffafrio’r batwyr drwy gydol yr ornest.

Os yw Awstralia am adennill y Lludw, fe fydd rhaid iddyn nhw ennill tair gêm allan o’r pedair sy’n weddill yn y gyfres, a cheisio atal Lloegr rhag chwarae eu dull ymosodol o griced oedd wedi rhoi cymaint o lwyddiant iddyn nhw yn y Swalec SSE.

Dywedodd Darren Lehmann ar ddiwedd yr ornest neithiwr: “Roedden nhw’n well a dyna ni. Roedden nhw’n well ym mhob un o’r tair agwedd. Fe wnaethon nhw ddal popeth, wnaethon nhw ymosod ac roedden ni’n gwybod y bydden nhw’n gwneud hynny.

“Dyna’r ffordd mae pawb yn dechrau chwarae erbyn hyn, sy’n wych i’r dorf gael gweld. Roedd yn achlysur gwych.

“Yn amlwg o’n safbwynt ni, roedd y ffordd wnaethon ni chwarae braidd yn siomedig. Ond roedden ni’n gwybod y bydden nhw’n ymosod.”

Er y siom o fynd ar ei hôl hi o 1-0 yn y gyfres, mae Lehmann yn hyderus y gall ei dîm wyrdroi eu sefyllfa a tharo’n ôl yn yr ail brawf yn Lord’s yr wythnos nesaf.

“Maen nhw wedi bod yn chwaraewyr da iawn ers amser hir. O’n safbwynt ni, mae ein paratoadau wedi bod yn wych o ystyried ein bod ni wedi chwarae yn India’r Gorllewin lle mae’r lleiniau’n debyg iawn, ac yna’r ddwy gêm baratoadol felly maen nhw’n barod amdani.”

Shane Watson

Un o’r gwendidau amlwg yn y tîm dros y pedwar diwrnod diwethaf oedd y chwaraewr amryddawn Shane Watson, oedd wedi’i chael yn anodd perfformio gyda’r bat a’r bêl.

Ac unwaith eto, roedd ei wendid wrth geisio atal y bêl rhag taro’i goes o flaen y wiced o dan y chwyddwydr.

Ceisiodd Watson, yn ei ansicrwydd, wrthwynebu penderfyniad y dyfarnwr ond fe ddangosodd y camerâu yn glir y byddai’r bêl wedi teithio ymlaen i fwrw’r wiced.

Ond mae’n wendid y mae Lehmann yn sicr y gall Watson ei oresgyn.

“Dych chi ddim moyn bod allan gyda’ch coes o flaen y wiced drwy’r amser. Mae e’n gwneud popeth o fewn ei allu i ddatrys hynny. Roedd hi’n agos iawn yn y batiad cyntaf.”

Er bod cwestiynau’n cael eu gofyn o hyd am wendidau Watson, mae Lehmann yn cyfaddef nad oedd y batwyr wedi perfformio’n ddigon da fel uned gyfan.

“Mae’n debyg na wnaethon ni, fel uned fatio, ddod o hyd i ffordd o oroesi’r cyfnodau anodd.

“Fe wnaethon ni ddewis carfan i gadw’r tlws ac ennill y gyfres.  Y cyfan allwch chi ei wneud yw gwneud y penderfyniadau cywir wrth fynd ymlaen.

Y llain

Doedd y llain, sydd wedi cael ei beirniadu’n gyson dros y pedwar diwrnod diwethaf, ddim wedi peri trafferth i Awstralia, yn ôl Lehmann.

“Roedden ni’n falch o gael 20 wiced yn y gêm, ond mae’n debyg na chawson ni ddigon o rediadau.

“Wnaethon ni ddim ymateb yn dda iawn i’r amodau yn y gêm hon.

“Doedden ni ddim yn ddigon cyson, yn wahanol i Loegr, ac fe wnaethon nhw chwarae’n well na ni.

“Roedd y llain yn dda o hyd heddiw, i fod yn berffaith onest, ond doedd safon ein batwyr ni ddim yn ddigon da.”