Mae’n rhaid bod Awstralia’n teimlo’n hyderus drwy gydol pedwerydd bore prawf cyntaf Cyfres y Lludw wrth iddyn nhw anelu i sgorio 412 i guro Lloegr yng Nghaerdydd.
Roedd David Warner a Steve Smith wedi adeiladu partneriaeth o 78 i fynd ag Awstralia i 97 ar ôl wynebu’r siom o golli wiced Chris Rogers yn ystod pelawdau agoriadol y dydd.
Ond wrth i’r sesiwn ddirwyn i ben, cafodd yr ornest ei throi â’i phen i waered wrth i Moeen Ali ddarganfod coes Warner o flaen y wiced.
Daeth cyfle cynnar i ran Joe Root i wasgu Awstralia wrth iddyn nhw gwrso nod hanesyddol o 412 i ennill yr ornest, ond fe fethodd â dal ei afael ar y bêl yn y trydydd slip ar ôl i belen gan Jimmy Anderson wyro oddi ar ymyl bat Chris Rogers.
Chwaraeodd y trydydd dyfarnwr Chris Gaffaney ei ran yn yr ornest lai na hanner awr i mewn i’r diwrnod, wrth gael ei alw i asesu penderfyniad i beidio rhoi David Warner allan. Ond dangosodd y camerâu nad oedd Warner wedi taro’r bêl cyn iddi lanio ym menyg y wicedwr Jos Buttler.
Tro Awstralia oedd hi nesaf i fynd at Gaffaney, wrth i’r batiwr Chris Rogers gwestiynu a oedd Ian Bell wedi dal ei afael yn ddiogel ar y bêl yn y slip. ‘Oedd’, oedd ymateb y dyfarnwr, ac roedd Rogers ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn a’r cyfanswm yn 19-1.
Yn nwylo Warner a Steve Smith roedd y cyfrifoldeb o daro nôl ar ôl colli’r wiced gyntaf, ac fe gydiodd Warner yn yr awenau gan daro hanner canred oddi ar 72 o belenni.
Ond oddi ar belen ola’r sesiwn, y troellwr Moeen Ali gipiodd wiced dyngedfennol Warner, wrth ganfod ei goes o flaen y wiced ac roedd Awstralia’n 97-2 ar ddiwedd y sesiwn.
Mae angen 315 yn rhagor ar Awstralia am y fuddugoliaeth, ac mae ganddyn nhw wyth wiced wrth gefn.