Roedd Lloegr wedi ymestyn eu blaenoriaeth i 271 erbyn amser te ar drydydd diwrnod y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd.

Collodd Lloegr eu hail wiced yn fuan ar ôl i’r ail sesiwn ddechrau y prynhawn ma, wrth i Gary Ballance ddarganfod menyg y wicedwr Brad Haddin oddi ar fowlio Josh Hazlewood.

Ond daeth rhywfaint o sefydlogrwydd i’r batiad wrth i Ian Bell ac Adam Lyth sicrhau bod Lloegr yn ychwanegu 50 at eu cyfanswm o fewn saith pelawd wedi’r egwyl.

Parhau i lifo wnaeth yr ergydion i’r ffin wrth i’r ddau fatiwr cymharol newydd ddod i’r arfer â llain sydd wedi cynnig ychydig iawn i’r bowlwyr drwy gydol hanner cynta’r ornest.

Ar ôl ymestyn mantais Lloegr i 195 a’u helpu i gyrraedd 73-3, cafodd Lyth ei ddal yn gampus oddi ar fowlio Nathan Lyon, wrth i gapten Awstralia neidio’n isel i’w chwith yn y slip a dal ei afael ar y bêl gydag un llaw.

Tarodd Bell ddeg pedwar ar ei ffordd i hanner canred wrth iddo ddatblygu partneriaeth effeithiol gyda Joe Root o 76 cyn i’r sesiwn ddod i ben.

Amser te, roedd Lloegr wedi cyrraedd 149-3, ac roedd ganddyn nhw flaenoriaeth batiad cyntaf o 271 gyda saith wiced yn weddill.