Ni fydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn cymryd camau pellach yn erbyn Clwb Criced Morgannwg wedi i Glwb Criced Swydd Derby gyhuddo’r Cymry o weithredu’n groes i ysbryd y gêm.
Roedd Swydd Derby wedi’u cythruddo ddechrau’r tymor pan benderfynodd Morgannwg gau eu batiad ar 103-4 mewn gornest yn Stadiwm Swalec a gafodd ei heffeithio’n sylweddol gan law.
Roedd eu penderfyniad yn golygu bod cyfle gan Forgannwg i wella’u cyfradd fowlio araf – a allai fod wedi arwain at golli pwyntiau – gan amddifadu’r ymwelwyr o’r cyfle i ennill pwyntiau bonws iddyn nhw eu hunain hefyd.
Mewn datganiad, dywedodd Comisiwn Disgyblu Criced yr ECB nad ydyn nhw’n gweld bai ar Swydd Derby am wneud cwyn.
Ond dywedodd dirprwy gadeirydd y pwyllgor, Mike Smith nad ydyn nhw am gymryd camau pellach yn erbyn Morgannwg ar ôl pwyso a mesur y dystiolaeth.
Ychwanegodd y pwyllgor fod rhaid rhoi ychydig o ryddid i siroedd gael penderfynu eu tactegau eu hunain.