Roedd Morgannwg yn fuddugol o bedwar rhediad mewn gornest gyffrous yn erbyn Swydd Middlesex yn y Swalec SSE heno.
Cafodd seiliau’r fuddugoliaeth eu gosod gan yr agorwyr Jacques Rudolph a Craig Meschede, wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 82 wedi i Forgannwg benderfynu batio’n gyntaf.
Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf wrth i Meschede gael ei stympio oddi ar fowlio’r troellwr Neil Dexter am 33 ychydig cyn diwedd y degfed pelawd.
Dilynodd Colin Ingram yn fuan wedyn am dri rhediad yn unig, wedi’i ddal gan Eoin Morgan oddi ar fowlio James Franklin.
Daeth batiad Rudolph i ben am 60 yn y bedwaredd belawd ar ddeg, pan oedd Morgannwg yn 119-3, a’r gyfradd sgorio wedi arafu ryw fymryn.
Collodd Ben Wright ei wiced yn y bymthegfed pelawd i Steven Finn, ac roedd Morgannwg yn 124-4.
Sgoriodd Morgannwg 45 o rediadau oddi ar bum pelawd ola’r batiad i achub Morgannwg, a daeth eu batiad i ben wrth iddyn nhw gyrraedd 169-5, gan roi nod heriol i’r ymwelwyr.
Dechreuodd Swydd Middlesex gwrso’r nod o 170 mewn modd heriol, wrth i’r agorwyr Nick Compton a Dawid Malan sgorio 29 cyn i Compton gael ei fowlio gan Wayne Parnell yn y bedwaredd belawd.
Daeth 16 o rediadau oddi ar y chweched pelawd wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 60-1 ar ddiwedd y cyfnod clatsio, 19 o rediadau’n well na chyfanswm Morgannwg ar yr un adeg.
Ond collodd yr Awstraliad Joe Burns ei wiced yn y belawd nesaf, wedi’i fowlio gan y troellwr Andrew Salter, a’r ymwelwyr yn 74-2.
Roedd canol y batiad yn ddigon sefydlog i Swydd Middlesex wrth i Malan a Morgan adeiladu partneriaeth o 34 i arwain yr ymwelwyr i 138 cyn i Morgan gael ei fowlio gan Dean Cosker am 15.
Roedd nod o 44 i’r ymwelwyr gyda phum pelawd yn weddill ac roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn bosibilrwydd cryf wrth i Graham Wagg ildio deg o rediadau oddi ar yr unfed belawd ar ddeg.
Ond yr ail belawd ar bymtheg oedd y belawd dyngedfennol, wrth i Meschede gipio dwy wiced yn y belawd i waredu Malan am 70, a Joe Dexter am 2, ac roedd yr ymwelwyr mewn dyfroedd dyfnion ar 142-5.
Daeth 15 o rediadau oddi ar y ddwy belawd nesaf, gan olygu bod angen 13 am y fuddugoliaeth oddi ar y chwe phelen olaf, gafodd eu bowlio gan Wagg.
Ond roedd y nod yn drech na Swydd Middlesex yn y pen draw, er i’r wicedwr John Simpson gyfrannu 31 at y cyfanswm, ac roedd Morgannwg yn fuddugol o bedwar rhediad yn y pen draw.