Bydd Morgannwg yn anelu i adeiladu ar eu llwyddiant eisoes yng nghystadleuaeth y T20 pan fyddan nhw’n herio Swydd Essex yn Stadiwm Swalec nos Wener.
Fe fu’n rhaid i’r Cymry wneud un newid i’r garfan wrth i Ruaidhri Smith gymryd lle David Lloyd, oedd wedi anafu llinyn y gâr yn ystod yr ornest Bencampwriaeth rhwng y ddwy sir.
Dydy’r bowliwr cyflym o Dde Affrica, Wayne Parnell ddim ar gael ychwaith, ond mae disgwyl iddo ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf nos Wener nesaf wrth i’r Cymry groesawu Swydd Hampshire i Stadiwm Swalec.
Un o’r chwaraewyr ifainc sy’n edrych ymlaen at yr ornest yw’r troellwr ifanc Andrew Salter, oedd wedi serennu yn ystod ail fatiad y gornest Bencampwriaeth ddoe, gan gipio tair wiced.
“Mae’n gystadleuaeth hollol wahanol ac yn ffordd hollol wahanol o fynd o’i chwmpas hi.
“Ond mae’r hyder sydd gyda ni eisoes o’r gêm ddiwethaf yn erbyn Swydd Surrey yn enfawr ac ry’n ni wir yn edrych ymlaen ati.
“Gobeithio gawn ni dorf dda i mewn a chreu awyrgylch rhyfeddol yng Nghaerdydd. Gall yr awyrgylch fod yn anhygoel yng Nghaerdydd, yn enwedig pan y’ch chi’n eu gweld nhw’n dod i mewn yn eu grwpiau mawr. Gobeithio mai dyna fyddwn ni’n ei greu’r tymor yma.
“Gawson ni gwpwl o gemau agos y llynedd pan gawson ni sawl buddugoliaeth dda, felly gobeithio y bydd pobol ddaeth i’r gemau hynny’n dychwelyd eleni.
“Yn y T20, mae’n gêm gyflym a chyn i chi sylweddoli, ry’ch chi’n rhedeg o gwmpas y lle. Ond mae’r bois wedi chwarae tipyn o griced ac maen nhw’n gwybod sut i addasu i’r fformat yn gymharol hawdd.”
Bwrlwm
Un arall sy’n edrych ymlaen at yr achlysur yw prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford.
“Os allwn ni chwarae fel wnaethon ni nos Wener diwethaf, dw i’n credu y dylai fod yn wych i unrhyw un sy’n dod i wylio.
“Mae gwir fwrlwm ynghylch y T20 yma. Roedd yn wych yn y Swalec y llynedd felly ry’n ni wir yn edrych ymlaen at y gêm gyntaf gartref.
“Gawson ni fuddugoliaeth dda yn erbyn Swydd Surrey yr wythnos diwethaf. Mae [Swydd Essex] yn dîm da felly bydd hi’n gêm dda ac ry’n ni’n barod amdani.”
Hyder
Bydd hyder y tîm heno yn hollbwysig i Forgannwg, yn ôl yr is-hyfforddwr Robert Croft: “Ni wedi ennill un gêm a ni’n edrych mlaen at y gêm.
“Fi’n credu bod llawer o bobol yn mynd i ddod lawr i weld y gêm a gobeitho bod y dorf yn gallu rhoi tipyn bach i’r bois.
“Maen nhw’n dîm arbennig o dda yn y gem ugain pelawd ond y’n ni wedi ennill un gêm. Pan y’ch chi’n whare gêm ugain pelawd, mae popeth yn gallu digwydd a gobeitho bo ni’n gallu rhoi perfformiad da mewn.
“Y peth pwysig i ni nawr yw canolbwyntio ar beth y’n ni’n gallu gwneud. Ry’n ni’n gwybod fod tîm Essex yn gryf, ond mae popeth yn gallu digwydd yn y gêm ugain pelawd.”
Carfan Morgannwg: W Bragg, R Smith, J Rudolph (capten), M Wallace, C Ingram, B Wright, C Cooke, C Meschede, A Salter, G Wagg, D Cosker, M Hogan
Carfan Swydd Essex: R ten Doeschate (capten), M Pettini, N Browne, J Ryder, R Bopara, G Smith, K Velani, J Foster, G Napier, A Malik, C Taylor, D Master, R Topley, S Tait